Hawl dynol i ddŵr a glanweithdra
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae'r hawl dynol i ddŵr a glanweithdra (talfyriad yn y Saesneg: HRWS) yn egwyddor sy’n datgan bod dŵr yfed glân a glanweithdra yn hawl dynol oherwydd eu bod yn hanfodol i gynnal bywyd pob person byw.[1] Cafodd ei gydnabod fel hawl dynol gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ar 28 Gorffennaf 2010.[2] Mae'r hawl wedi'i gydnabod mewn cyfraith ryngwladol trwy gytundebau hawliau dynol, datganiadau a safonau eraill. Mae rhai sylwebwyr wedi seilio'r ddadl dros yr hawl ddynol i ddŵr ar seiliau sy’n annibynnol ar benderfyniad y Cynulliad Cyffredinol yn 2010, megis Erthygl 11.1 o’r Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol (ICESCR); ymhlith y sylwebwyr hynny, mae’r rhai sy’n derbyn bodolaeth deddfau rhyngwladol gorfodol ac sy’n ystyried ei fod yn fath o egwyddor sy’n rhwymiad o fewn cyfraith ryngwladol. Mae cytuniadau eraill sy’n cydnabod yr hawl yn benodol yn cynnwys Confensiwn 1979 ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn Erbyn Menywod (CEDAW) a Chonfensiwn 1989 ar Hawliau’r Plentyn (CRC).
Enghraifft o'r canlynol | hawliau dynol |
---|---|
Dyddiad cyhoeddi | 28 Gorffennaf 2010 |
Cysylltir gyda | Yr hawl i amgylchedd iach |
Cyhoeddwyd y diffiniad mwyaf clir o hawl dynol i ddŵr gan Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol mewn Sylw Cyffredinol 15 a ddrafftiwyd yn 2002.[3] Roedd y dehongliad anghyfrwymol hwn, sef bod mynediad i ddŵr yn amod ar gyfer meddu ar yr hawl i safon byw ddigonol, yn ymwneud â’r hawl i’r safon iechyd uchaf bosibl, ac felly’n hawl dynol. Nodir: “Mae’r hawl dynol i ddŵr yn rhoi’r hawl i bawb gael dŵr digonol, diogel, derbyniol, hygyrch a fforddiadwy at ddefnydd personol a domestig.”[4]
Pasiwyd y penderfyniadau cyntaf am yr hawl gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig a Chyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig yn 2010.[5] Dywedasant fod hawl dynol i lanweithdra yn gysylltiedig â'r hawl dynol i ddŵr, gan fod diffyg glanweithdra yn lleihau ansawdd dŵr i lawr yr afon, felly mae'r trafodaethau dilynol wedi parhau i bwysleisio'r ddwy hawl gyda'i gilydd. Yng Ngorffennaf 2010, ailddatganodd Penderfyniad Cynulliad Cyffredinol 64/292 y Cenhedloedd Unedig (CU) yr hawl dynol i dderbyn gwasanaethau dŵr a glanweithdra diogel, fforddiadwy, glân a hygyrch.[6] Yn ystod y Cynulliad Cyffredinol hwnnw, cydnabuwyd bod dŵr yfed diogel a glân yn ogystal â glanweithdra yn hawl dynol.[7] Mae penderfyniad y Cynulliad Cyffredinol 64/292 yn honni hawl dynol i gael mynediad at ddŵr yfed diogel a glân a glanweithdra am ddim, ac yn codi materion ynghylch hawliau'r llywodraeth i reolaeth a chyfrifoldebau am sicrhau'r dŵr a'r glanweithdra hwnnw. Yng Nghymru, y llywodraeth perthnasol yw Llywodraeth Cymru. Mae Rhaglen Ddatblygu'r Cenhedloedd Unedig wedi datgan y bydd cydnabyddiaeth eang gyrchu gwasanaethau dŵr a glanweithdra'n hyrwyddo bywyd iach a boddhaus.[8][9][10] Amlygodd penderfyniad diwygiedig gan y Cenhedloedd Unedig yn 2015 fod y ddwy hawl ar wahân ond yn gyfartal.[4]
Mae’r hawl yn gorfodi llywodraethau i sicrhau bod pobl yn gallu meddu ar ddŵr a glanweithdra o ansawdd, sydd ar gael yn hygyrch ac yn fforddiadwy.[11] Mae cost dŵr ac i ba raddau y mae'n ei gwneud yn ofynnol i rywun aberthu nwyddau a gwasanaethau hanfodol eraill yn cael ei ystyried.[12] Y rheol gyffredinol ar gyfer fforddiadwyedd dŵr yw na ddylai fod yn fwy na 3-5% o incwm aelwydydd.[13] Mae hygyrchedd dŵr yn ystyried yr amser a gymerir, hwylustod cyrraedd y ffynhonnell a risgiau wrth gyrraedd y ffynhonnell dŵr.[12] Rhaid i ddŵr fod yn hygyrch i bob dinesydd, sy'n golygu na ddylai dŵr fod ymhellach na 1,000 metr neu 3,280 troedfedd a rhaid iddo fod o fewn 30 munud o daith.[14] Mae argaeledd dŵr yn faes lle ystyrir a yw’r cyflenwad dŵr ar gael mewn meintiau digonol, yn ddibynadwy ac yn gynaliadwy.[12] Mae ansawdd dŵr yn gofyn a yw dŵr yn ddiogel i'w yfed neu ei ddefnyddio mewn modd arall.[12] Er mwyn sicrhau bod dŵr yn dderbyniol, ni ddylai fod ag unrhyw arogl ac ni ddylai gynnwys unrhyw liw.[1]