Harold II, brenin Lloegr
brenin neu frenhines (r. 1066) / From Wikipedia, the free encyclopedia
Brenin Lloegr o 5 Ionawr 1066 hyd 14 Hydref yn yr un flwyddyn oedd Harold II neu Harold Godwinson (Hen Saesneg: 'Harold Godƿinson') (c. 1022 - 14 Hydref 1066). Ef oedd brenin Sacsonaidd olaf Lloegr a bu ar ei orsedd rhwng 6 Ionawr 1066 hyd at ei farwolaeth ym Mrwydr Hastings ar 14 Hydref yr un flwyddyn tra'n ymladd yn erbyn y Normaniaid a oedd yn cael eu harwain gan Gwilym Goncwerwr.
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Harold II, brenin Lloegr | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 1022 ![]() Essex ![]() |
Bu farw | 14 Hydref 1066 ![]() Hastings ![]() |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr ![]() |
Galwedigaeth | brenin neu frenhines ![]() |
Swydd | teyrn Lloegr ![]() |
Tad | Godwin ![]() |
Mam | Gytha Thorkelsdóttir ![]() |
Priod | Edith the Fair, Ealdgyth ![]() |
Plant | Gytha of Wessex, Gunhild of Wessex, Magnus, son of Harold Godwinson, Harold, son of Harold Godwinson, Godwin, son of Harold Godwinson, Edmund, son of Harold Godwinson, Ulf, son of Harold Godwinson ![]() |
Llinach | House of Godwin ![]() |
Cau
Ef oedd y cyntaf o dri brenin Lloegr i farw mewn rhyfel. Mab Godwin, Iarll Wessex, a'i wraig Gytha Thorkelsdóttir oedd Harold. Priododd Ealdgyth, merch Ælfgar, Iarll Mersia, a gweddw Gruffudd ap Llywelyn.