![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/98/F0182_Louvre_Code_Hammourabi_Bas-relief_Sb8_rwk.jpg/640px-F0182_Louvre_Code_Hammourabi_Bas-relief_Sb8_rwk.jpg&w=640&q=50)
Hammurabi
From Wikipedia, the free encyclopedia
Chweched brenin Babilon oedd Hammurabi (c. 1795 CC – 1750 CC). Acadeg yw'r ffutf yma ar ei enw, o'r Amoreg ˤAmmurāpi. Ef a sefydlodd ymerodraeth Babilon, gan ennill cyfres o fuddugoliaethau yn erbyn teyrnasoedd eraill Mesopotamia; erbyn diwedd ei oes roedd yn feistr Mesopotamia oll.
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Hammurabi | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 1810 (yn y Calendr Iwliaidd) CC ![]() Babylonia, Old Babylonian Empire ![]() |
Bu farw | 1750 (yn y Calendr Iwliaidd) CC ![]() Babylonia ![]() |
Dinasyddiaeth | Babylonia ![]() |
Galwedigaeth | brenin, teyrn, arweinydd ![]() |
Swydd | King of Babylon ![]() |
Adnabyddus am | Cyfraith Hammurabi ![]() |
Rhagflaenydd | Sin-Muballit ![]() |
Tad | Sin-Muballit ![]() |
Plant | Samsu-iluna ![]() |
Llinach | Old Babylonian Empire ![]() |
Cau
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/1/12/Hammurabi%27s_Babylonia_1.svg/640px-Hammurabi%27s_Babylonia_1.svg.png)
Mae'n fwyaf adnabyddus am Gyfraith Hammurabi, un o'r esiamplau cynharaf mewn hanes o ddeddfau ysgrifenedig. Cafwyd hyd i'r rhain yn 1901, wedi eu hysgrifennu ar dabled garreg, dros chwe troedfedd o uchder, yn Susa, lle roedd wedi ei ddwyn gan yr Elamitiaid. Mae'n awr yn Amgueddfa'r Louvre, Paris.