Tywysoges Gymreig yn Llinach Aberffraw From Wikipedia, the free encyclopedia
Tywysoges Gymreig yn Llinach Aberffraw oedd Gwerful Goch neu Gwerful Goch ferch Cynan ab Owain Gwynedd (bl. tua 1200). Coffeir Gwerful yn enw'r pentref Betws Gwerful Goch, Sir Ddinbych. Yn ôl pob tebyg, cafodd yr enw "Gwerful Goch" am ei bod yn bengoch (cf. Iolo Goch efallai).[1]
Gwerful Goch ferch Cynan ab Owain Gwynedd | |
---|---|
Saif Eglwys Fair ar safle'r betws a godwyd dan nawdd Gwerful. Ailadeiladwyd rhannau sylweddol o'r eglwys yn 1880-81. | |
Ganwyd | 12 g |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Blodeuodd | 1200 |
Tad | Cynan ab Owain Gwynedd |
Ganed Gwerful rywbryd cyn 1174 (bu farw ei thad yn y flwyddyn honno) ond ni wyddys pa flwyddyn yn union.
Roedd hi'n ferch i Gynan ab Owain Gwynedd (m. 1174), mab y Tywysog Owain Gwynedd, yn ôl rhai hen achau. Buasai yn ei blodau tua diwedd y 12g a dechrau'r 13g felly.
Roedd ei hewythredd yn cynnwys y bardd-dywysog Hywel ab Owain Gwynedd, Iorwerth Drwyndwn (tad Llywelyn Fawr, Tywysog Cymru) a Rhodri (m. 1195, hendaid Senana gwraig Gruffudd ap Llywelyn a mam Llywelyn ein Llyw Olaf).
Ei brodyr oedd y tywysogion Gruffudd ap Cynan ab Owain Gwynedd (m. 1200) a Maredudd ap Cynan (m. 1212).
Priododd Gwerful y tywysog Iarddur ap Trahaearn ap Cynddelw ap Rhirid.[1]
Bu farw Gwerful rywbryd yn hanner cyntaf y 13eg, yn ôl pob tebyg, a chafodd ei chladdu yn arglwyddiaeth Dinmael, efallai yn yr eglwys a sefydlodd hi ei hunan yno.[1] Mae'r diweddar Athro Bedwyr Lewis Jones yn awgrymu iddi roi nawdd i godi capel anwes ('betws') yn y pentref yn Ninmael a gafodd ei enwi'n Fetws Gwerful Goch wedyn.[2]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.