Gwasg Prifysgol Cymru
cyhoeddwr academaidd / From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwasg Prifysgol Cymru yw prif gyhoeddwyr academaidd Cymru ac un o'r gweisg mwyaf blaenllaw yn y byd academaidd Celtaidd. Cafodd 'Bwrdd Gwasg Prifysgol Cymru' ei sefydlu yn 1922 fel un o fyrddau canolog Prifysgol Cymru (gyda'r Bwrdd Academaidd a'r Bwrdd Gwybodau Celtaidd).
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Rhan o ...
Enghraifft o'r canlynol | gwasg prifysgol, cyhoeddwr ![]() |
---|---|
Rhan o | y fasnach lyfrau yng Nghymru ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 1922 ![]() |
Gweithredwr | Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan ![]() |
Aelod o'r canlynol | Association of Learned and Professional Society Publishers ![]() |
Rhiant sefydliad | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ![]() |
Pencadlys | Caerdydd ![]() |
Enw brodorol | Gwasg Prifysgol Cymru ![]() |
Gwefan | https://www.uwp.co.uk/ ![]() |
Cau
Mae'r Wasg yn cyhoeddi yn y Gymraeg a'r Saesneg ac wedi gwneud cyfraniad arbennig i ddiwylliant Cymru dros y blynyddoedd, yn arbennig ym meysydd cyhoeddiadau ar hanes Cymru, yr iaith Gymraeg a llenyddiaeth Gymraeg. Ymhlith ei chyhoeddiadau pwysicaf mae Geiriadur Prifysgol Cymru. Mae'r wasg yn cyhoeddi tua 60 o lyfrau academaidd bob blwyddyn.