![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/3/3f/Aesmix.jpg/640px-Aesmix.jpg&w=640&q=50)
Gwas neidr mudol
From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwas neidr bychan o deulu'r Aeshnidae yw Gwas neidr mudol (enw gwrywaidd; llu. gweision neidr mudol; Lladin: Aeshna mixta; Saesneg: migrant hawker) sy'n bryfyn yn Urdd yr Odonata (sef Urdd y Gweision neidr a'r Mursennod). Mae tiriogaeth yr A. mixta yn ymestyn o ogledd Affrica i dde a chanol Ewrop hyd at rhabarthau'r Baltig.
Ffeithiau sydyn Dosbarthiad gwyddonol, Enw deuenwol ...
Gwas neidr mudol | |
---|---|
![]() | |
Gwryw | |
Benyw | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | Insecta |
Urdd: | Odonata |
Is-urdd: | Anisoptera |
Teulu: | Aeshnidae |
Genws: | Aeshna |
Rhywogaeth: | A. mixta |
Enw deuenwol | |
Aeshna mixta (Latreille, 1805) | |
Cau
Yn wahanol i'r rhan fwyaf o weision neidr mae'n treulio'r rhan fwyaf o'i amser i ffwrdd o ddŵr, ond mae'n dychwelyd ato i baru, yn enwedig at ddŵr araf ei lif. Mae ar ei adain rhwng Gorffennaf a diwedd Hydref. Yn aml, maent yn dod at ei gilydd, a gwelir cwmwl ohonynt yn hedfan ar adegau.
- Gwryw, gyda marciau nodweddiadol
- Benyw, gyda marciau nodweddiadol
- Gwryw
- Gwryw ar ei adain
- Cyplysu / paru
- Cyplysu / paru
- Y fenyw yn dodwy