![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/ff/Map_Minoan_Crete-en.svg/langcy-640px-Map_Minoan_Crete-en.svg.png&w=640&q=50)
Gwareiddiad Minoaidd
From Wikipedia, the free encyclopedia
Y Gwareiddiad Minoaidd yw'r enw a ddefnyddir am y gwareiddiad cynnar a ddatblygodd ar ynys Creta yn ystod Oes yr Efydd. Blodeuodd o tua'r 27ain ganrif CC hyd tua 1450 CC, pan olynwyd ef gan y Gwareiddiad Myceneaidd, efallai o ganlyniad i goncwest o dir mawr Gwlad Groeg.
Ffeithiau sydyn Math, Enwyd ar ôl ...
![]() | |
Math | diwylliant archeolegol, civilization, hen wareiddiad, cyfnod o hanes, arddull ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Minos ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Oes yr Efydd, history of Crete ![]() |
Lleoliad | Creta ![]() |
Cyfesurynnau | 35.309722°N 24.893333°E ![]() |
![]() | |
Cau
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/6/6d/Knossos_fresco_women.jpg/640px-Knossos_fresco_women.jpg)
Rhoddwyd yr enw "Minoaidd" iddo gan yr archaelegydd Prydeinig Syr Arthur Evans, ar ôl y Brenin Minos ym mytholeg Roeg. Bu ef yn cloddio yn Cnossos, y mwyaf adnabyddus o'r safleoedd Minoaidd, lle roedd palasau cymhleth gydag addurniadau tarawiadol. Safleoedd eraill tebyg yw Phaistos, Malia, a Kato Zakros.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/ff/Map_Minoan_Crete-en.svg/640px-Map_Minoan_Crete-en.svg.png)