![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/1/16/Jerusalem_Holy-Sepulchre_Jesus-Detail-01.png/640px-Jerusalem_Holy-Sepulchre_Jesus-Detail-01.png&w=640&q=50)
Cristnogaeth
crefydd undduwiol Abrahamaidd / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Cristnogaeth neu Cristionogaeth yn grefydd undduwiaeth sy'n seiliedig ar ddysgeidiaeth a ffydd bersonol yn Iesu Grist. Gosodir prif egwyddorion Cristnogaeth yn y Beibl, casgliad o lyfrau a llythyrau a ysgrifennwyd yn yr iaith Aramaeg, Hebraeg, a Groeg yn wreiddiol. Mae'r enw Crist yn dod o'r gair Groeg Χριστός (Christos) sy'n golygu "yr Eneiniog".
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | grwp crefyddol mawr ![]() |
---|---|
Math | Crefyddau Abrahamig ![]() |
Dechrau/Sefydlu | c. 33 ![]() |
Lleoliad | ledled y byd ![]() |
Yn cynnwys | Cristnogaeth y Gorllewin, Cristnogaeth Ddwyreiniol, Christian denominational family, enwad Cristnogol, Christian movement ![]() |
Sylfaenydd | Iesu, y Forwyn Fair, yr Apostol Paul, Sant Pedr ![]() |
![]() |
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/96/Bloch-SermonOnTheMount.jpg/640px-Bloch-SermonOnTheMount.jpg)
Gorchymyn cyntaf Iesu Grist oedd "caru Duw", a'r ail orchymyn oedd "câr dy gymydog" (Marc XII:30,31 a Luc X:27). Mae haelioni (anhunanoldeb), trugaredd a chyfiawnder yn ganolog i Gristnogaeth ond y cysyniad creiddiol yn y ffydd Gristnogol ydy Gras Duw. Hanfod Cristnogaeth ydy fod pob peth yn bosib trwy ras Duw a bod y ddynoliaeth yn medru dod i berthynas a Duw ac etifeddu bywyd tragwyddol yn y Nefoedd trwy ffydd sy'n bosib trwy ras Duw ac nid trwy weithredoedd dynion. Canolbwynt y ffydd Gristnogol oedd gwaith Iesu Grist, rhan o'r Duwdod Cristnogol, a'r Groes yn cymodi dyn a Duw. Gwêl Cristnogion y weithred yma fel yr ymddangosiad amlycaf o ras eu Duw ac i'r Cristion "Crist ac yntau wedi ei groeshoelio" yw canolbwynt a man cychwyn eu ffydd.
Mae'n ymddangos nawr fod yr Iesu wedi ei eni tua 4 CC ym Methlehem. Does dim llawer o wybodaeth am ei fywyd cynnar nes iddo gyrraedd 30 oed pan benododd ddeuddeg o ddisgyblion (y Deuddeg Apostol). Cafodd Iesu ei groeshoeli tua 29 OC, neu yn ôl amseryddiaeth yr Eglwys Gatholig 7 Ebrill 30.