![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/1/10/GriffithRhysJonesCaradogAberdare.jpg/640px-GriffithRhysJonesCaradogAberdare.jpg&w=640&q=50)
Griffith Rhys Jones
gof ac arweinydd cerddorol / From Wikipedia, the free encyclopedia
Arweinydd cerddorol Cymreig oedd Griffith Rhys Jones, neu Caradog (21 Rhagfyr 1834 – 4 Rhagfyr 1897). Roedd yn adnabyddus fel arweinydd y "Côr Mawr" o tua 460 llais (Undeb Corawl De Cymru; y South Wales Choral Union), a enillodd y wobr gyntaf ddwywaith yng nghystadleuathau corawl y Palas Crisial (Crystal Palace) yn Llundain yn y 1870au.
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Griffith Rhys Jones | |
---|---|
![]() Cerflun Caradog yn Aberdâr. | |
Ganwyd | 21 Rhagfyr 1834 ![]() Trecynon ![]() |
Bu farw | 4 Rhagfyr 1897 ![]() |
Dinasyddiaeth | Cymru, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon ![]() |
Galwedigaeth | arweinydd ![]() |
Cau
- Am y digrifwr cyfoes o'r un enw gweler Griff Rhys Jones.
Ganed Griffith Rhys Jones yn Nhrecynon, ger Aberdâr, yng Nghwm Cynon, Morgannwg. Gweithiai fel gof yng Ngwaith Haearn Aberdâr ym mhentref Llwydcoed.
Fe'i claddwyd ym Mynwent Aberdâr, ger ei bentref genedigol.
Yn 1920 codwyd cerflun er anrhydedd iddo a gynlluniwyd gan Syr William Goscombe John yn Sgwar Fictoria, Aberdâr.