![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/5c/Flag_of_Greece.svg/langcy-640px-Flag_of_Greece.svg.png&w=640&q=50)
Gwlad Groeg
From Wikipedia, the free encyclopedia
Gweriniaeth yn ne-ddwyrain Ewrop yw'r Weriniaeth Helenaidd neu Gwlad Groeg. Gwledydd cyfagos yw Albania, Gogledd Macedonia, Bwlgaria a Thwrci. I'r gogledd mae'r Môr Egeaidd ac i'r de a'r dwyrain Môr Ionia a'r Môr Canoldir.
Ffeithiau sydyn Arwyddair, Math ...
![]() | |
Ελληνική Δημοκρατία (Ellinikí Dimokratía) | |
![]() | |
Arwyddair | Rhyddid neu farwolaeth ![]() |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, gwlad ![]() |
Enwyd ar ôl | Groegiaid ![]() |
Prifddinas | Athen ![]() |
Poblogaeth | 10,482,487 ![]() |
Sefydlwyd |
|
Anthem | Emyn Rhyddid ![]() |
Pennaeth llywodraeth | Kyriakos Mitsotakis ![]() |
Cylchfa amser | UTC+2 ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Groeg, Groeg y Werin, Groeg Modern ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | De Ddwyrain Ewrop, yr Undeb Ewropeaidd, Ardal Economeg Ewropeaidd, Y Cenhedloedd Unedig ![]() |
Arwynebedd | 131,957 km² ![]() |
Gerllaw | Y Môr Canoldir ![]() |
Yn ffinio gyda | Albania, Bwlgaria, Gogledd Macedonia, Twrci ![]() |
Cyfesurynnau | 38.5°N 23°E ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Gwlad Groeg ![]() |
Corff deddfwriaethol | Senedd Helenos ![]() |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Llywydd Gwlad Groeg ![]() |
Pennaeth y wladwriaeth | Katerina Sakellaropoulou ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Gwlad Groeg ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Kyriakos Mitsotakis ![]() |
![]() | |
![]() | |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $214,874 million, $219,066 million ![]() |
Arian | Ewro ![]() |
Canran y diwaith | 18.5 canran ![]() |
Cyfartaledd plant | 1.3 ![]() |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.887 ![]() |
Cau
Ystyrir Groeg gan lawer fel crud diwylliant y Gorllewin a man geni democratiaeth, athroniaeth orllewinol, campau chwaraeon, llenyddiaeth orllewinol, gwleidyddiaeth a drama. Mae ganddi hanes hir a chyfoethog. Ymunodd â'r Undeb Ewropeaidd yn 1981 a chyflwynwyd yr ewro fel arian y wlad yn 2001.
Yn Olympia gwlad Groeg y cynhaliwyd y Gemau Olympaidd Gwreiddiol o 776 CC hyd 393 OC. Yn 2004 cynhaliwyd y Gêmau Olympaidd Modern yn Athen.