Gozón
ardal weinyddol yn Astruias / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Gozón yn dref ac yn ardal weinyddol yn rhanbarth Avilés, Asturias. Y brifddinas yw tref Lluanco (Sbaeneg: Luanco). Mae'n ffinio gyda'r Môr Cantabri yn y gogledd, gyda Corvera yn y de, i'r gorllewin ceir Avilés, ac i'r dwyrain Carreño.
Porthladd pysgota yw'r fwrdeistref, ac yma y lleolir Cabo de Peñas ("Arfordir y Creigiau Mawrion").
Ar wahân i Lluanco mae'n rhaid i holl arwyddion yr ardal fod mewn Astwrieg; yr eithriad yw 'Lluanco/Luanco' a ganiateir yn y ddwy iaith.