rhywogaeth o adar From Wikipedia, the free encyclopedia
Rhywogaeth o adar yw Glas y Dorlan (Alcedo atthis) sy'n gyffredin trwy'r rhan fwyaf o Ewrop a rhannau o Asia ac Affrica. Nid yw'n aderyn mudol fel rheol, ond yng ngogledd Ewrop mae'n symud tua'r de yn y gaeaf. Mae'n perthyn i deulu'r Alcedinidae o fewn urdd y Coraciiformes.
Glas y Dorlan | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Coraciiformes |
Teulu: | Alcedinidae |
Genws: | Alcedo |
Rhywogaeth: | A. atthis |
Enw deuenwol | |
Alcedo atthis (Linnaeus, 1758) | |
Fel yr agryma'r enw, mae'r rhan fwyaf o'r aderyn yn las. Mae'n aderyn gweddol fach, gyda hyd o tua 19 cm (7.5 modfedd). Mae'n byw ar bysgod bach ac anifeiliad bychan eraill sy'n cael eu dal trwy blymio i mewn i'r dŵr a dal y pysgod yn ei big. Fel rheol mae'n eistedd ar frigyn neu rywle cyfleus arall uwchben y dŵr i ddisgwyl am gyfle i blymio. Bydd wedyn yn dychwelyd gyda'r pysgodyn i'r brigyn, ei daro amryw o weithiau yn erbyn y brigyn neu rywbeth caled arall i'w ladd os yw'n bysgodyn gweddol fawr, ac yna ei lyncu. Mae'n hoffi afonydd sy'n llifo'n weddol araf neu byllau, ond mae'n rhaid i'r dŵr fod yn weddol glir iddo fedru gweld ei brae.
Mae'n nythu mewn twll yn y dorlan, sy'n cael ei wneud gan yr adar eu hunain fel rheol, er y gall ddefnyddio hen dwll aderyn neu anifail arall os bydd un ar gael. Nid yw'n adeiladu nyth, dim ond dodwy wyau ym mhen pellaf y twll.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.