From Wikipedia, the free encyclopedia
Dyddiadurwraig a gwraig fusnes Iddewig o'r Almaen oedd Glückel von Hameln (1645 – 19 Medi 1724) sydd yn nodedig am ei atgofion sydd yn ffynhonnell werthfawr am hanes, diwylliant, a bywydau'r Iddewon yng Nghanolbarth Ewrop yn niwedd yr 17g a dechrau'r 18g. Ysgrifennodd ei dyddiadur yn yr iaith Iddew-Almaeneg, gyda rhannau yn Hebraeg, mewn saith cyfrol yn y cyfnodau 1691–99 a 1715–19. Cofnod teuluol oedd bwriad y gwaith, a gyhoeddwyd o'r diwedd yn 1896 dan y teitl Zikhroynes Glikl Hamel.
Ganed yn Hamburg yn yr Ymerodraeth Lân Rufeinig. Alltudiwyd yr Iddewon o Hamburg yn 1649 a symudodd Glückel a'i theulu i fwrdeistref Altona ar gyrion y ddinas. Wedi iddi dderbyn addysg Iddewig draddodiadol yn Altona, dychwelodd gyda'i theulu i Hamburg yn 1657. Priododd, yn 14 oed, â Hayim von Hameln, a chawsant 12 o blant. Wedi marwolaeth Hayim yn 1689, rheolai ei fusnes a'i faterion ariannol gan y weddw Glückel. Yn 1700 priododd â Cerf Lévy, banciwr ym Metz, Lorraine, yn Nheyrnas Ffrainc. Nid oedd Lévy yn gymaint o lwyddiant ym myd busnes â Glückel, ac yn fuan collodd ei ffortiwn ei hun yn ogystal ag holl arian ei wraig. Bu farw Lévy yn 1712, a bu Glückel yn byw gydag un o'i merched ym Metz nes iddi farw yno tua 78 oed.[1]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.