Model sfferigol o'r Ddaear, neu rhyw sylwedd wybrennol arall, neu o'r sffêr wybrennol yw glôb neu yn hynafaidd cronnell. Mae gan globau bwrpas tebyg i fapiau, ond yn wahanol i fapiau, nid ydynt yn ystumio'r arwyneb maent yn ei bortreadu heblaw am ei gyflwyno ar raddfa lai. Gelwir glôb o'r Ddaear yn glôb daearol. Mae glôb o'r sffer wybrennol yn cael ei alw'n glôb wybrennol.
Mae glôb yn dangos manylion ei destun. Mae glôb daearol, er enghraifft, yn dangos y tir a'r môr. Gall ddangos cenhedloedd a dinasoedd adnabyddus a'r rhwydwaith o linellau hydred a lledred. Mae gan rai gerfwedd i ddangos mynyddoedd.
Mae glôb wybrennol yn dangos sêr, a gall hefyd ddangos safleoedd gwrthrychau seryddol adnabyddus eraill. Fel arfer, bydd y sffêr wedi'i rannu yn glystyrau o sêr.
Daw'r gair "glôb" o'r gair Lladin globus, sy'n golygu "sffêr". Mae gan globau hanes hir. Mae'r cyfeiriad cynharaf at glôb i'w ganfod yng ngwaith Strabo, yn disgrifio Glôb Crates o gwmpas 150 CC. Y glôb hynaf yn y byd yw'r Erdapfel, a grëwyd gan Martin Behaim yn 1492. Mae'r glôb wybrennol hynaf yn y byd i'w ganfod ar ben Atlas Farnese, wedi'i gerfio yn Ymerodraeth Rufeinig yr ail ganrif.
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.