Gemau'r Gymanwlad 1998 oedd yr unfed tro ar bymtheg i Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal. Kuala Lumpur, Maleisia, oedd cartref y Gemau rhwng 11 - 21 Medi a dyma'r tro cyntaf i'r Gemau ymweld ag Asia. Llwyddodd Kuala Lumpur i ennill yr hawl i gynnal y Gemau yn ystod Gemau Olympaidd 1992 yn Barcelona gan sicrhau 40 pleidlais gydag Adelaide, Awstralia yn sicrhau 25. Roedd Gemau'r Gymanwlad wedi eu beirniadu yn dilyn y penderfyniad i wrthod ceisiadau New Dehli i gynnal Gemau 1990 a 1994 gan arwain at lywodraeth Canada'n nodi bod angen i Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal ym mhob rhan o'r Gymanwlad ac nid i'w cyfyngu i'r gwledydd traddodiadol fel Lloegr, Awstralia, Seland Newydd a Chanada.[1]
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Dyddiad ...
Cafwyd campau i dimau am y tro cyntaf yn y Gemau gyda Chriced, Hoci, Pêl-rwyd a Rygbi Saith-bob-ochr yn ogystal â Bowlio Deg a Sboncen a chafwyd athletwyr o Ciribati a Twfalw am y tro cyntaf yn ogystal â dwy wlad oedd wedi ymuno â'r Gymanwlad er nad oeddent yn gyn-diriogaethau Prydeinig; Camerŵn a Mosambic.