Mynydd yng Ngwynedd sy'n rhan o Grib Nantlle yw Garnedd Goch, weithiau Garnedd-goch. Saif rhwng Craig Cwm Silyn i'r gogledd-ddwyrain ar hyd y grib a Mynydd Graig Goch i'r de-orllewin.

Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Garnedd Goch
Thumb
Mathcopa, bryn 
Daearyddiaeth
SirGwynedd 
Gwlad Cymru
Uwch y môr700 metr 
Cyfesurynnau53.02223°N 4.2212°W 
Cod OSSH5111849525 
Manylion
Amlygrwydd24 metr 
Rhiant gopaCraig Cwm Silyn 
Cadwyn fynyddEryri 
Thumb
Cau

Ar ochr ogleddol y mynydd, mae clogwyni yn arwain i lawr at Lynnau Cwm Silyn, tra ar yr ochr ddeheuol mae Bwlch Cwm Dulyn yn arwain i lawr i Gwm Ciprwth a Chwm Pennant. Ceir carnedd o Oes yr Efydd ar y copa, sy'n rhoi ei enw i'r mynydd.

Gellir ei ddringo o bentref Talysarn neu Nebo.

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.