![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/f7/Hieronymus_Bosch_-_The_Garden_of_Earthly_Delights_-_The_Earthly_Paradise_%2528Garden_of_Eden%2529.jpg/640px-Hieronymus_Bosch_-_The_Garden_of_Earthly_Delights_-_The_Earthly_Paradise_%2528Garden_of_Eden%2529.jpg&w=640&q=50)
Gardd Eden
From Wikipedia, the free encyclopedia
Gardd Eden yw lleoliad y Baradwys Ddaearol yn y Beibl a'r Torah. Yn ôl yr ail ddisgrifiad o greu'r byd a geir yn Llyfr Genesis yn yr Hen Destament, planodd Duw ardd yn Eden, oedd rhywle yn y Dwyrain (Gen. 2:8). Yn fersiwn y Septaguint o'r Hen Destament mae'r gair Hebraeg 'gardd' yn cael ei gyfieithu fel 'Paradwys'.
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | gardd, lleoliad chwedlonol, lle yn y Beibl, biblical concept ![]() |
---|---|
Y gwrthwyneb | Jahannam ![]() |
Crëwr | Duw, God in Islam, Rabb, Ilah in Islam, Al-lâh, God in Christianity ![]() |
Rhan o | mytholeg Cristnogol, Jewish mythology, Islamic mythology ![]() |
Cysylltir gyda | Jannah ![]() |
Lleoliad | Qiyama, akhirah ![]() |
Prif bwnc | immortality in Islam, Iman, Pillars of faith in Islam ![]() |
Yn cynnwys | tree of life ![]() |
Enw brodorol | جَنَّاتُ عَدْنٍ ![]() |
![]() |
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/51/Lucas_Cranach_%28I%29_-_Adam_and_Eve-Paradise_-_Kunsthistorisches_Museum.jpg/640px-Lucas_Cranach_%28I%29_-_Adam_and_Eve-Paradise_-_Kunsthistorisches_Museum.jpg)
Dywedir fod Gardd Eden yn cynnwys pob coeden ffrwythau da. Yn ei chanol safai Pren y Bywyd (Coeden Gwybodaeth y Da a'r Drwg). Mae'r goeden yn cael ei dyfrhau gan afon sy'n ymrannu'n bedair cangen wrth iddi adael yr ardd, sef Pedair Afon Paradwys a enwir fel Pishon, Gihon, Hidecel ac Ewffrates.
Roedd Dyn a Dynes (Adda ac Efa) yn byw yn ddedwydd yn yr ardd, mewn cyflwr o ddiniweidrwydd naturiol, yn noethlymun ond heb gywilydd o hynny, nes iddynt fwyta'r Ffrwyth Waharddedig mewn canlyniad i ystryw'r Sarff a chael eu Troi allan o Baradwys oherwydd iddynt bechu.
Cafwyd sawl ymgais i ddarganfod lleoliad Gardd Eden, neu'r safle a fu'n sail i'r traddodiad, gyda ymchwilwyr yn canolbwyntio ar safleoedd yn ne Arabia.