Gair mwys
From Wikipedia, the free encyclopedia
Gair Mwys yw y math o dechneg sy'n cael ei ddefnyddio fel rhyw fath o jôc gan amlaf. Mae llawer o'r rhain yn jôcs un llinell, bachog. Fel arfer, gair mwys yw pan mae gair â dwy ystyr yn mynd i mewn i frawddeg lle mae'r ystyron yn eglur o'r ddau safbwynt. Pethau fel:
- Does dim pwynt ysgrifennu â phensil sydd wedi torri.
- Roedd ar fy meddwl i gael hyd i fy oriawr coll i, ond doedd yr amser ddim gen i.