From Wikipedia, the free encyclopedia
Prifddinas a dinas fwyaf Botswana, yn ne-orllewin Affrica yw Gaborone (hen enw: Gaberones). Fe'i lleolir yn ne-ddwyrain y wlad yn agos iawn i'r ffin â thalaith Transvaal yng Ngweriniaeth De Affrica. Symudwyd y brifddinas i Gaborone o ddinas Mafeking yn 1965. Lleolir rhan o Brifysgol Botswana a Gwlad Swasi yno.
Mae'r ddinas yn gorwedd i'r dwyrain o anialwch mawr y Kalahari mewn ardal gymharol ffrwythlon. Ceir llyn mawr ar gyrion y ddinas. Mae rheilffordd yn cysylltu'r ddinas â gogledd-ddwyrain y wlad a dinas Bulawayo yn Simbabwe, ac â Johannesburg a Pretoria i'r de dros y ffin yn Ne Affrica.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.