Ffrwydradau trenau Madrid 11 Mawrth 2004
From Wikipedia, the free encyclopedia
Ymosodiadau bom yn Madrid, 11 Mawrth 2004. Dydd Iau, 11 Mawrth 2004, ffrwydrodd deg bom ar cercanías (trenau lleol) yn ninas Madrid, Sbaen rhwng 07:39 a 07:42 yn y bore. Bu farw 190 o bobl, o leiaf, a chafodd dros 1,800 o bobl eu hanafu.
Enghraifft o'r canlynol | llofruddiaeth torfol, ymosodiad terfysgol |
---|---|
Dyddiad | 11 Mawrth 2004 |
Lladdwyd | 193 |
Rhan o | terfysgaeth yn Sbaen |
Lleoliad | Madrid |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ffrwydrodd tair bom, ym mlaen, canol, a thu ôl y trên ym mhrif orsaf y ddinas, Atocha, am 07:39, a hefyd ffrwydrodd pedair bom ar yr un pryd ar drên arall tu allan i orsaf Atocha, yn Calle Téllez. Am 07:41 ffrwydrodd dwy fom ar drên arall yng ngorsaf El Pozo del Tío Raimundo, ac am 07:42 ffrwydrodd un bom ar drên yng ngorsaf Santa Eugenia.
Bu farw'r mwyafrif o'r dioddefwyr yn Atocha/Téllez (89 o bobl), ac El Pozo (67), efo 17 yn Santa Eugenia.
Roedd 41 o'r meirwon yn dod o 13 gwlad dramor—15 o Rwmania, 5 yr un o Ecwador a Pheriw, 4 o Wlad Pwyl, 3 o Colombia, 2 o Hondwras, ac un yr un o Bwlgaria, Tsile, Ciwba, Gweriniaeth Dominica, Gini Bisaw, Ffrainc a Moroco.