![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8c/PompeiiStreet.jpg/640px-PompeiiStreet.jpg&w=640&q=50)
Ffordd Rufeinig
From Wikipedia, the free encyclopedia
Ffordd Rufeinig yw'r term a ddefnyddir am ffordd a adeiladwyd yng nghyfnod Gweriniaeth Rhufain neu Ymerodraeth Rhufain. Roedd rhwydwaith o ffyrdd yn cysylltu dinas Rhufain a gwahanol rannau o'r ymerodraeth, yn galluogi byddinoedd Rhufeinig i symud yn gyflym o le o le. Roeddynt hefyd o fudd mawr i fasnachwyr ac eraill, er mai milwrol oedd eu prif bwrpas. Hyd ar y 18g roedd llawer ohonynt yn parhau i gael eu defnyddio.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8c/PompeiiStreet.jpg/320px-PompeiiStreet.jpg)
Yn ôl Ulpianus, gellid dosbarthu ffyrdd Rhufeinig yn dri dosbarth:
- Viae publicae, consulares, praetoriae neu militares
- Viae privatae, rusticae, glareae neu agrariae
- Viae vicinales
Heblaw'r dosbarthiad yma, roedd Ulpianus hefyd yn gwahanu'r ffyrdd yn dri dosbarth o ran y dull o'u hadeiladu:
- Via terrena: Ffordd bridd.
- Via glareata: Ffordd bridd. gyda gwyneb o gerrig mân.
- Via munita: Ffordd wedi eu hadeiladu gyda sylfaeni a gwyneb o flociau cerrig.