Yn dibynnu ar eich lleoliad o fewn y Deyrnas Unedig, mae yna symiau amrywiol o ïonau fflworid yn bodoli'n naturiol yn y dŵr. Mae ionau fflworid yn cael ei ychwanegu at y cyflenwad dŵr yn naturiol wrth i ddŵr o afonydd, llynnoedd a gorsafoedd lifo dros greigiau a phridd yn cynnwys yr ïonau hyn.

Thumb
Map yn dangos fflworideiddio mewn gwahanol rannau o'r byd. Mae'r lliwiau'n dangos canran y boblogaeth ym mhob gwlad sy'n derbyn dŵr wedi'i fflworideiddio i lefelau a argymhellir ar gyfer atal pydredd dannedd. Mae hyn yn cynnwys dŵr fflworid artiffisial a naturiol.[1]      80–100%      60–80%      40–60%      20–40%        1–20%      < 1%      anhysbys

Mantais o gael ïonau fflworid mewn dŵr yfed yw ei fod yn helpu i atal pydredd dannedd, a dyna pam mae'n aml iawn yn cael ei ddarganfod mewn cynnyrch past dannedd o wahanol gwmnïoedd. Yn y dannedd mae'r fflworid yn cael ei amsugno yn yr enamel ac yn helpu i gryfhau a newid eu lliw.

Mater dadleuol yw fflworideiddio gan fod rhai cynghorau a llywodraethau yn dewis i ychwanegu fflworid at ddŵr yfed mewn proses o’r enw fflworideiddio. Dechreuodd hyn ar ddechrau'r ugeinfed ganrif pan roedd cysylltiad amlwg efo lefelau pydredd dannedd a lefelau fflworid mewn dŵr. Ond ar y llaw arall, mae rhai yn dadlau fod gormodedd o dŵr wedi fflworideiddio yn gallu achosi at ganserau'r stumog, esgyrn gwan, ag anffrwythlondeb mewn merched. Mae rhai hefyd yn credu ei fod yn 'feddyginiaeth dorfol' ac na ddylid gorfodi neb i'w yfed. Ffactor arall yn erbyn fflworideiddio dŵr yw bod crynodiad uchel ohono yn gallu achosi niwed i'r dannedd ar ffurf o ddiliwio. Mae'r broblem yn gallu effeithio ar iechyd babanod gan fod ei systemau, yn enwedig y dannedd, heb ddatblygu'n llawn.

Cyfeiriadau

Wikiwand in your browser!

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.

Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.