![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/4/41/Red_Kite_-_Gigrin_Farm%252C_Rhayader_-_geograph.org.uk_-_2973349.jpg/640px-Red_Kite_-_Gigrin_Farm%252C_Rhayader_-_geograph.org.uk_-_2973349.jpg&w=640&q=50)
Fflora Cymru
From Wikipedia, the free encyclopedia
Y planhigion sy'n byw yng Nghymru yw fflora Cymru, fflurdyfiant Cymru, blodeueg Cymru neu'n syml planhigion Cymru. O ganlyniad i dirwedd y wlad a hanes y bodau dynol sy'n byw ynddi, glaswelltiroedd yw'r tir yn bennaf, gan gynnwys glaswellt mynydd a grug yn yr ucheldiroedd a maeswellt a rhygwellt yn y porfaoedd isel. Cyffredin hefyd yw coetiroedd wedi eu plannu, gan gynnwys parcdiroedd, coedwigoedd sy'n nodi ffiniau, a phlanhigfeydd masnachol.