From Wikipedia, the free encyclopedia
Gyrrwr rasio Fformiwla Un o Sbaen yw Fernando Alonso Diaz (ganed 29 Gorffennaf 1981). Mae wedi ennill pencampwriaeth y byd ddwywaith, yn 2005 a 2006.
Fernando Alonso | |
---|---|
Ganwyd | Fernando Alonso Díaz 29 Gorffennaf 1981 Uviéu |
Dinasyddiaeth | Sbaen |
Galwedigaeth | gyrrwr Fformiwla Un |
Swydd | Llysgennad Ewyllus Da UNICEF, Aston Martin F1 Team |
Taldra | 174 centimetr |
Pwysau | 68 cilogram |
Tad | José Luis Alonso |
Priod | Raquel del Rosario |
Partner | Linda Morselli, Andrea Schlager, Melissa Jiménez |
Gwobr/au | Gwobr Chwaraeon Tywysoges Astwrias, Medal Aur Gorchymyn Brenhinol Teilyngdod Chwaraeon |
Gwefan | http://www.fernandoalonso.com |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Renault F1 Team, McLaren, Renault F1 Team, Scuderia Ferrari, McLaren, Minardi, Renault F1 Team, Aston Martin F1 Team |
Gwlad chwaraeon | Sbaen |
llofnod | |
Ganed ef yn Oviedo, Sbaen. Dechreuodd rasio yn Fformiwla Un yn 2001, yn Grand Prix Awstralia, gyda thîm Minardi. Yn 2002 ymunodd a thîm Renault. Enillodd ei ras gyntaf yn Grand Prix Hwngari 2003, y gyrrwr ieuengaf i ennill Grand Prix. Enillodd bencampwriaeth y byd gyda Renault yn 2005, y gyrrwr ieuengaf erioed i ennill y bencampwriaeth.
Ymunodd a thîm McLaren ar gyfer tymor 2007. Cafodd dymor anhapus gyda'r tîm yma, gan ddod i amau fod McLaren yn ffafrio ei bartner, y Sais Lewis Hamilton. Gorffennodd yn drydydd yn y bencampwriaeth. Cyhoeddwyd ei fod yn dychwelyd at Renault ar gyfer tymor 2008.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.