Ferdinand de Saussure
From Wikipedia, the free encyclopedia
Ieithydd o'r Swistir oedd Ferdinand de Saussure (26 Tachwedd 1857 – 22 Chwefror 1913). Mae'n cael ei barchu fel tad ieithyddiaeth gyfoes. Roedd ei syniadau yn sail i strwythuriaeth, theori a ddaeth yn ganolog i ieithyddiaeth yr 20g, ac a oedd yn ddylanwadol iawn mewn meysydd eraill megis anthropoleg a beirniadaeth lenyddol. Ganwyd yng Ngenefa a roedd yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Genefa, lle traddododd gyfres o ddarlithoedd yn amlinellu ei syniadau am iaith yn ystod y blynyddoedd 1906 tan 1911. Cyhoeddwyd y darlithoedd hyn gan ei gyn-fyfyrwyr ar ôl ei farwolaeth fel Cwrs Ieithyddiaeth Gyffredinol (Cours de linguistique générale), llyfr pwysicaf ieithyddiaeth gyffredinol hanner cynta'r 20g. Bu farw yn Vufflens-le-Château ger Morges.
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Ferdinand de Saussure | |
---|---|
Ganwyd | 26 Tachwedd 1857 Genefa |
Bu farw | 22 Chwefror 1913 Vufflens-le-Château |
Dinasyddiaeth | Y Swistir |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | ieithydd, addysgwr, academydd, cymdeithasegydd, athronydd, phonologist |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | semiology, structural linguistics, Geneva School, Course in General Linguistics |
Tad | Henri de Saussure |
Priod | Marie Faesch |
Plant | Raymond de Saussure, Jacques de Saussure |
Perthnasau | Théodore de Saussure, Alphonse de Saussure |
Llinach | de Saussure |
llofnod | |
Cau