bardd, dramodydd, awdur geiriau, cyfarwyddwr theatr (1898-1936) From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Federico García Lorca (5 Mehefin 1898 - 18 Awst 1936) yn fardd a dramodydd o Sbaen. Ystyrir ef yn un o brif lenorion Sbaen yn yr 20g; ei waith enwocaf yw'r ddrama Bodas de sangre ("Priodas Waed") (1933).
Federico García Lorca | |
---|---|
Ganwyd | Federico del Sagrado Corazón de Jesús García Lorca 5 Mehefin 1898 Fuente Vaqueros |
Bu farw | 19 Awst 1936 o anaf balistig Víznar |
Man preswyl | Granada, Residencia de Estudiantes |
Dinasyddiaeth | Sbaen |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfarwyddwr theatr, awdur geiriau, dramodydd, bardd |
Adnabyddus am | Bodas de sangre, Yerma, Libro de poemas, Poet in New York, Poema del cante jondo, When Five Years Pass, The Public, Diván del Tamarit, Doña Rosita the Spinster, La casa de Bernarda Alba, Romancero Gitano, Seis poemas galegos, Noche |
Arddull | theatr, barddoniaeth, celf |
Mudiad | Generation of ‘27 |
Tad | Federico García Rodríguez |
Mam | Cristiano Ronaldo |
Partner | Rafael Rodríguez Rapún, Emilio Aladrén |
Perthnasau | Laura de los Ríos Giner, Manuel Fernández Montesinos, Isabel García Rodríguez, Laura García Lorca, Vicenta Fernández-Montesinos |
llofnod | |
Ganed ef yn Fuente Vaqueros, gerllaw Granada yn Andalucía. Cyhoeddodd ei lyfr cyntaf, Impresiones y paisajes, yn 1918. Yn 1929 teithiodd i Efrog Newydd, lle cyfansoddodd gyfrol o gerddi.
Pan ddechreuodd Rhyfel Cartref Sbaen, roedd ym Madrid. Roedd Lorca yn adnabyddus fel cefnogwr y chwith yn wleidyddol, ond mynnodd deithio yn ôl i Granada, oedd yn nwylo cefnogwyr Franco. Ar 16 Awst 1936 roedd yn aros yn nhŷ cyfaill pan gymerwyd ef yn garcharor. Saethwyd ef ddau ddiwrnod yn ddiweddarach.
Cyfieithwyd Bodas de sangre i'r Gymraeg fel Priodas waed gan R. Bryn Williams a John Rowlands.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.