From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwleidydd o Latfia yw Evika Siliņa (ganwyd 3 Awst 1975). Mae hi wedi gwasanaethu fel prif weinidog Latfia ers 15 Medi 2023, gan ddod yr ail fenyw yn y swydd honno.[1] Roedd hi'n Weinidog Lles yn yr ail gabinet Krišjānis Kariņš.[2] [3] Mae hi'n aelod o blaid wleidyddol Unity.
Evika Siliņa | |
---|---|
Ganwyd | 3 Awst 1975 Riga |
Dinasyddiaeth | Latfia |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, cyfreithegwr |
Swydd | Minister for Welfare, Prif Weinidog Latfia |
Plaid Wleidyddol | Unity, Reform Party, New Unity |
Gwobr/au | Order of Princess Olga, 1st class |
Cafodd Siliņa ei geni yn Riga. [4] [5] Astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Latfia o 1993 i 1997, ac yn Ysgol y Gyfraith i Raddedigion Riga. [6] Priododd ag Aigars Siliņš; mae gan y cwpl dri o blant. [5]
Ar ôl ymddiswyddiad Krišjānis Kariņš, ar 16 Awst 2023, enwebodd New Unity Evika Siliņa fel ymgeisydd ar gyfer swydd y prif weinidog.[7] Ar 24 Awst, gofynnodd yr Arlywydd Edgars Rinkēvičs iddi ffurfio llywodraeth.[8]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.