Cân ddawns/bop a berfformir gan y gantores Swedaidd Loreen yw "Euphoria". Fe'i hysgrifennwyd gan Thomas G:son a Peter Boström. Mae'r gân yn enwocaf am ennill y Gystadleuaeth Cân Eurovision 2012 a gynhaliwyd yn Baku, Aserbaijan wrth gynrychioli Sweden. Enillodd y gân y gystadleuaeth gyda 372 o bwyntiau, y sgôr ail-uchaf yn hanes y gystadleuaeth. Derbynnodd y gân y mwyaf o '12 pwynt' yn hanes y gystadleuaeth gan dderbyn pwyntiau uchafswm o 18 o wledydd.
Ffeithiau sydyn Sengl gan Loreen, Rhyddhawyd ...
"Euphoria" |
|
Sengl gan Loreen |
Rhyddhawyd |
26 Chwefror 2012 |
Fformat |
Sengl digidol |
Recodriwyd |
2012 |
Genre |
Dawns, Pop |
Parhad |
3:01 |
Label |
WMG Sweden |
Ysgrifennwr |
Thomas G:son, Peter Boström |
Cynhyrchydd |
Peter Boström |
Loreen senglau cronoleg |
"Sober" (2011) |
"Euphoria" (2012) |
|
|
Cau
Ffeithiau sydyn Cystadleuaeth Cân Eurovision 2012, Blwyddyn ...
"Euphoria" |
Cystadleuaeth Cân Eurovision 2012 |
Blwyddyn |
2012 |
Gwlad |
Sweden |
Artist(iaid) |
Loreen |
Iaith |
Saesneg |
Cyfansoddwr(wyr) |
Thomas G:son, Peter Boström |
Ysgrifennwr(wyr) |
Thomas G:son, Peter Boström |
Perfformiad |
Canlyniad cyn-derfynol |
1 |
Pwyntiau cyn-derfynol |
181 |
Canlyniad derfynol |
1 |
Pwyntiau derfynol |
372 |
Cronoleg ymddangosiadau |
|
Cau
Derbynnodd "Euphoria" glod gan gritigyddion sy'n mwynhau ardull y gân. Llwyddiant dros nos oedd y gân yn fasnachol, nid yn unig yn Sweden, ond ledled y byd yn Ewrop ac Ynysoedd y De. Siartiodd y gân yn gyntaf fel rhif 12 yn Sweden wedyn cyrhaeddodd y brig gan aros yn y safle hwn am chwe wythnos. Gwerthwyd dros 100,000 gopi'r sengl yn Sweden sy'n rhoi i'r sengl statws 5x Platinwm.