![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/d6/Elissa_-_August_24%252C_2012_%25282%2529.jpg/640px-Elissa_-_August_24%252C_2012_%25282%2529.jpg&w=640&q=50)
Elissa (cantores)
From Wikipedia, the free encyclopedia
Cantores Arabeg o'r Libanus yw Elissar Zakaria Khoury (Arabeg: إليسار زكريا خوري) (ganwyd 27 Hydref 1972 yn Deir el Ahmar, Libanus), a adnabyddir fel Elissa (Arabeg: إليسا). Mae hi wedi ennill sawl gwobr ryngwladol. Mae hi'n un o'r cantorion benywaidd mwyaf adnabyddus yn y byd Arabaidd.
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Label recordio ...
Elissa | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | إليسار زكريّا خوري ![]() 27 Hydref 1971 ![]() Deir Al-Ahmar ![]() |
Label recordio | EMI, Rotana Music Group, Universal Music Group ![]() |
Dinasyddiaeth | Libanus, Yr Aifft ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, canwr ![]() |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd, cerddoriaeth y byd, cerddoriaeth Arabaidd ![]() |
Gwobr/au | Gwobrau Cerddoriaeth Byd ![]() |
Cau
Mae hi'n enwog am ei harddull angerddol o ganu a'i galluoedd lleisiol; cyfeirir ati yn aml fel "Brenhines Rhamant" a "Brenhines y Teimladau". Elissa oedd y cerddor Libanaidd cyntaf i ennill Gwobr Cerddoriaeth y Byd yn 2005 a 2006 ar gyfer gwerthu'r albwm gorau yn y Dwyrain Canol.