![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/95/El_Aai%25C3%25BAn-La%25C3%25A2youne_Collage.png/640px-El_Aai%25C3%25BAn-La%25C3%25A2youne_Collage.png&w=640&q=50)
El Aaiún
From Wikipedia, the free encyclopedia
Dinas yn nhiriogaeth Gorllewin Sahara a chyn-wladfa Sbaenaidd yw El-Aaiún (troslythrennir hefyd fel "Laâyoune" neu "El Ayun")(Arabeg: العيون, al-`ayūn, sef "Y Ddinas"). Mae'n gorwedd ger arfordir gogledd-orllewin Affrica ar lan Cefnfor Iwerydd, gyferbyn â'r Ynysoedd Dedwydd. Mae ym meddiant Moroco ers 1976, ac yn brifddinas rhanbarth Laâyoune-Boujdour-Sakia El Hamra yn y wlad honno. Hawlir meddiant ar y ddinas gan Weriniaeth Ddemocrataidd Arabaidd Sahrawi hefyd, fel ei phrifddinas de jure.
![]() | |
Math | dinas fawr, endid tiriogaethol gweinyddol, urban commune of Morocco ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 217,732 ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Moulay Hamdi Ould Errachid ![]() |
Cylchfa amser | UTC±00:00, UTC+01:00 ![]() |
Gefeilldref/i | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Arabeg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Talaith Laâyoune ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 8.1081 mi² ![]() |
Uwch y môr | 72 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 27.15°N 13.2°W ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | maer ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Moulay Hamdi Ould Errachid ![]() |
![]() | |
Mae ganddi boblogaeth o 188,084, yn gymysgedd o Forocwyr o'r gogledd a Sahrawiaid o dde Moroco a brodorion Gorllewin Sahara. Mae'r boblogaeth wedi cynyddu yn sylweddol dros y degawdau diwethaf, diolch i fenwfudo o Foroco. Cafwyd peth gwrthdaro ar y strydoedd yn 2005 fel rhan o intifada Gorllewin Sahara.