Saif Eglwys Gredifael, neu Eglwys Penmynydd rhwng Porthaethwy a Llangefni ar Ynys Môn (Cyfeirnod OS: SH 517 749); yr hen enw arni oedd Llanredifel . Fe'i cysegrir i Sant Gredifael, ei sefydlydd yn ôl traddodiad.[1]
Hanes
Mae gan yr eglwys hon gysylltiad â theulu Tuduriaid Penmynydd sef teulu o uchelwyr Cymreig fu'n flaenllaw yng ngwleidyddiaeth Cymru ac yn ddiweddarach Lloegr. Roedd yn eglwys plwyf Llanredifael (neu Llanredifel), a chyfeirir ati weithiau wrth yr enw hwnnw mewn ffynonellau hynafiaethol; safai'r plwyf yng nghwmwd Dindaethwy.
Yma mae cerflun alabaster o Goronwy ap Tudur Fychan a'i briod Myfanwy.
Oriel
- Eglwys hynod Penmynydd
- Eglwys Gredifael o'r cefn
- Drws pren yr eglwys wedi'i agor, gyda cherflun alabaster o Goronwy ap Tudur Fychan yn y pen draw
- Y tu fewn
- Ffenestr liw gyda'r geiriau:Undeb fel Rhosyn yw ar lan Afonydd ac fel Tŷ Dur ar Ben y Mynydd
- Arch garreg Goronwy a Myfanwy a symudwyd yma o Leiandy Llanfaes
- Cerflun o Goronwy ap Tudur Fychan
- Arfbais y Tuduriaid ar fagwyr yr egwlys
- Yr allor
- Prif ffestr liw'r eglwys
- Bedyddfaen garreg ger y porth
- Cerflun o Goronwy, gyda'r ffenestr liw y tu ôl.
- Y Rhyfel Byd Cyntaf; i gofio am fechgyn y plwyf a fu farw
- Y nenfwd uwch-ben corff yr eglwys
- Y nenfwd uwch ben yr allor
- Y fynwent
Cyfeiriadau
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.