From Wikipedia, the free encyclopedia
Yn hanes y Deyrnas Unedig, cyfeirir at gyfnod teyrnasiad y brenin Edward VII, sef o 1901 hyd 1910, yn syml fel Oes Edward' neu'r Oes Edwardaidd. Defnyddir y term"Edwardaidd" yn aml i gyfeirio at y 1900au yng ngwledydd Prydain yn gyffredinol neu, yn fwy neilltuol, i gyfeirio at arddull pensaernïol a chelfyddydau'r cyfnod. Fe'i defnyddir hefyd wrth gyfeirio at ddodrefn, celfi, dillad a.y.y.b. o'r 1910au.
Enghraifft o'r canlynol | cyfnod o hanes, arddull |
---|---|
Dechreuwyd | 1901 |
Daeth i ben | 1910 |
Rhagflaenwyd gan | Oes Fictoria |
Olynwyd gan | new Elizabethan era |
Gwladwriaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Roedd yn gyfnod pan welwyd yr Ymerodraeth Brydeinig ar ei hanterth. Roedd yn gyfnod o sefydlogrwydd a heddwch, ar y cyfan, sy'n gorwedd rhwng diwedd Rhyfel De Affrica (y rhyfel yn erbyn y Boers) ac erchyllter y Rhyfel Byd Cyntaf. Dilynwyd y rhyfel byd gan gyfnod hir o ansicrwydd economaidd a gwleidyddol yn y 1920au a'r 1930au, a daeth pobl i ddechrau edrych yn ôl ar y 1900au fel rhyw fath o Oes Aur.
Yn 1901 bu farw'r frenhines Victoria ar ôl 63 o flynyddoedd ar yr orsedd, a dynododd hyn ddiwedd cyfnod Victoria, wrth iddi gael ei holynu gan Edward VII. Roedd Edward wrth ei fodd gydag hwyl, ac felly roedd yn boblogaidd iawn. Ymhlith ei hoff chwaraeon oedd rasio, hwylio a saethu, ac roedd ganddo gylch cymdeithasol enfawr ym Mhrydain ac ar y cyfandir.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.