![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/de/Dreamworksanimationentrance.jpg/640px-Dreamworksanimationentrance.jpg&w=640&q=50)
DreamWorks Animation
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae DreamWorks Animation SKG, Inc. (NYSE: DWA) yn stiwdio animeiddio Americanaidd annibynnol sy'n cynhyrchu cyfresi o ffilmiau llwyddiannus o safbwynt ymateb y beirniaid ac yn fasnachol. Caiff y ffilmiau hyn eu hanimeiddio ar gyfrifiadur, ac maent yn cynnwys Shrek, Shark Tale, Madagascar, Over the Hedge, Bee Movie, Kung Fu Panda, Monsters vs. Aliens a How to Train Your Dragon. Ffurfiwyd y cwmni pan unodd adran ffilmiau animeiddiedig DreamWorks SKG gyda Pacific Data Images (PDI). Yn wrieddiol, cafodd ei ffurfio dan faner DreamWorks SKG, ond newidiodd i gwmni cyhoeddus ar wahan yn 2004.
![]() | |
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | stiwdio animeiddio, cwmni cynhyrchu ffilmiau, stiwdio ffilm, cwmni cyhoeddus ![]() |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1994 ![]() |
Perchennog | Comcast ![]() |
Sylfaenydd | Steven Spielberg, Jeffrey Katzenberg, David Geffen ![]() |
Rhagflaenydd | Amblimation ![]() |
Isgwmni/au | Pacific Data Images ![]() |
Rhiant sefydliad | Universal Studios ![]() |
Ffurf gyfreithiol | cwmni cyhoeddus ![]() |
Cynnyrch | ffilm animeiddiedig ![]() |
Pencadlys | Glendale ![]() |
Enw brodorol | DreamWorks Animation LLC ![]() |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Gwefan | https://www.dreamworks.com/ ![]() |
![]() |
Ar hyn o bryd, dosberthir y ffilmiau trwy Paramount Pictures (sy'n rhan o gwmni Viacom) a gymrodd reolaeth o DreamWorks SKG ym mis Chwefror 2006. Mae gan DreamWorks Animation ddwy stiwdio: y stiwdio animeiddio ffilmiau gwreiddiol yn Glendale, Califfornia a'r stiwdio PDI yn Ninas Redwood, Califfornia.