![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/6/6c/ISS-56_London%252C_England.jpg/640px-ISS-56_London%252C_England.jpg&w=640&q=50)
Docklands Llundain
ardal dwyrain Llundain / From Wikipedia, the free encyclopedia
Ardal yn nwyrain Llundain ar hyd glannau Afon Tafwys yw Docklands Llundain. Fe'i lleolir mewn rhannau o fwrdeistrefi Southwark, Tower Hamlets, Lewisham, Newham, a Greenwich. Arferai'r dociau yn yr ardal hon fod yn rhan o Borthladd Llundain, sef porthladd mwyaf y byd ar un adeg. Ar ôl i'r dociau gau, roedd yr ardal wedi mynd yn adfail ac yn dlawd erbyn yr 1980au. Dechreuodd adfywiad yr ardal yn ddiweddarach y ddegawd honno; mae wedi'i ailddatblygu'n bennaf ar gyfer defnydd masnachol a phreswyl. Mae'n cynnwys y datblygiad newydd Canary Wharf ar Ynys Cŵn (Isle of Dogs), sy'n ganolfan ariannol o bwys bellach. Bu datblygiad Rheilffordd Ysgafn Docklands yn gam pwysig i hybu adfywiad economaidd yr ardal.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/4/47/Docklands_map.svg/320px-Docklands_map.svg.png)
Ffeithiau sydyn Math, Ardal weinyddol ...
![]() | |
Math | glannau, ardal o Lundain ![]() |
---|---|
Ardal weinyddol | Llundain Fawr |
Daearyddiaeth | |
Sir | Llundain Fawr (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.505°N 0.0181°W ![]() |
![]() | |
Cau