Adroddir chwedlau am Ddilyw mawr a anfonir gan Dduw neu fodau dwyfol i ddinistrio gwareiddiad yn ddial neu gosb ar ddynoliaeth mewn sawl diwylliant o gwmpas y byd. Mae'n un o'r mythau diwylliannol mwyaf cyffredin.
Y chwedl fwyaf cyfarwydd i bawb yw honno am Y Dilyw a geir yn Llyfr Genesis yn y Beibl ac sy'n rhan o draddodiad yr Iddewon a'r Mwslemiaid hefyd. Yn y chwedl honno mae Noa yn achub ei deulu a deuryw anifeiliaid trwy adeiladu arch i'w diogelu.
Ceir sawl hanes am y Dilyw, yn boddi'r byd neu deyrnas unigol, mewn sawl traddodiad arall, yn cynnwys:
- Chwedl Matsya yn y Puranas Hindwaidd,
- Chwedl Deucalion ym mytholeg Roeg
- Chwedl Utnapishtim yn arwrgerdd Gilgamesh, ym Mesopotamia
- Chwedlau Cantre'r Gwaelod a Llys Helig yng Nghymru
- Chwedl Ker-Ys yn Llydaw
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.