![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/5f/Jesus-College-MS-111_00480_240v_%2528cropped%2529_Diarhebion.jpg/640px-Jesus-College-MS-111_00480_240v_%2528cropped%2529_Diarhebion.jpg&w=640&q=50)
Dihareb
dywediad sy'n rhoi cyngor, yn aml fel delwedd / From Wikipedia, the free encyclopedia
Dywediad byr, poblogaidd yw dihareb, sy'n mynegi gwiredd yn seiliedig ar brofiad o fywyd cyffredin. Nid yw dihareb yn ddyfyniad o eiriau un person, yn hytrach, mae'n tarddio o draddodiad llafar fel rheol, ac yn crynhoi doethineb canrifoedd. Mae gan bob iaith a diwylliant ei diarebion unigryw ei hun er y ceir rhai diarebion sy'n "rhyngwladol" ac a geir mewn sawl iaith a diwylliant. Mae'r wireb yn perthyn yn agos i'r ddihareb ond er bod diarebion yn cynnwys elfen wirebol yn aml nid yw pob gwireb yn ddihareb.
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Math ...
![]() Rhan o Lyfr Coch Hergest sy'n rhestru diarhebion Cymraeg yn y 14g, e.e. "Clywir corn cyn ei weled" | |
Enghraifft o'r canlynol | dosbarth llenyddol ![]() |
---|---|
Math | paroimia, ymadrodd, popular saying ![]() |
Rhan o | genres bychain o fewn llĂȘn gwerin ![]() |
![]() |
Cau
Yn aml, mae dihareb yn cynnwys trosiad, er enghraifft, "Nid aur yw popeth melyn" a "Gorau cannwyll pwyll i ddyn". Ond ceir diarebion heb drosiadau hefyd, e.e. "Trech Duw na phob darogan".