From Wikipedia, the free encyclopedia
Dinas a chymuned yng ngogledd Ffrainc yw Dieppe, a leolir yn département Seine-Maritime yn rhanbarth Haute-Normandie. Mae'n borthladd sy'n gorwedd ar aber Afon Arques ar lan Môr Udd (la Manche neu'r 'Sianel'). Pobogaeth: 34,449 (2007).
Math | cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 28,358 |
Pennaeth llywodraeth | Sébastien Jumel |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | canton of Dieppe-Est, canton of Dieppe-Ouest, arrondissement of Dieppe, Seine-Maritime |
Gwlad | Ffrainc |
Arwynebedd | 11.67 km² |
Uwch y môr | 6 metr, 0 metr, 94 metr |
Yn ffinio gyda | Bracquemont, Hautot-sur-Mer, Martin-Église, Rouxmesnil-Bouteilles, Saint-Aubin-sur-Scie |
Cyfesurynnau | 49.925°N 1.075°E |
Cod post | 76200, 76370 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Dieppe |
Pennaeth y Llywodraeth | Sébastien Jumel |
Sefydlwyd treflan ar safle Dieppe gan y Llychlynwyr yn 910. Tella oedd enw'r afon yn y cyfnod hwnnw ond fe'i gelwyd yn Djupr ('dwfn') gan y Llychlynwyr a dyma darddiad enw dinas Dieppe. Fe'i cipwyd gan y Saeson yn 1420. Yn 1430 carcharwyd Jeanne d'Arc yno cyn ei chymryd i Rouen. Bu gan Dieppe ran amlwg yn anturiaethau morwrol y Ffrancod ar ddiwedd yr Oesoedd Canol fel man cychwyn sawl mordaith fasnachol a threfedigaethol i Affrica a'r Amerig.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.