Dick Richardson
Paffiwr pwysau trwm o Gymro (1934-1999) / From Wikipedia, the free encyclopedia
Paffiwr pwysau trwm o Gymro oedd Richard Alexander Richardson (1 Mehefin 1934 – 15 Gorffennaf 1999). Daliodd y teitl pwysau trwm Ewropeaidd rhwng Mawrth 1960 a Mehefin 1962. Enillodd 31 allan o'i 47 gornest broffesiynol, gan golli 14, gyda dwy gêm gyfartal. Roedd yn un o bedwarawd o baffwyr bwysau trwm Prydain a fyddai'n bosib herio am bencampwriaeth teitl trwm y byd yn y 1950au a'r 1960au cynnar, ynghyd â Henry Cooper, Joe Erskine a Brian London.
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Dick Richardson | |
---|---|
Ganwyd | 1 Mehefin 1934 ![]() Casnewydd ![]() |
Bu farw | 15 Gorffennaf 1999 ![]() o canser ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | paffiwr ![]() |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | y Deyrnas Unedig, Cymru ![]() |
Cau
Trechodd Richardson nifer o brif baffwyr bwysau trwm yn ei yrfa, gan gynnwys; Karl Mildenberger, Bob Baker, Brian London a Hans Kalbfell.