![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/91/Wonder_Lake_and_Denali.jpg/640px-Wonder_Lake_and_Denali.jpg&w=640&q=50)
Denali
From Wikipedia, the free encyclopedia
Denali, hefyd Mynydd McKinley (Saesneg: Mount McKinley), yw copa uchaf yr Unol Daleithiau a chopa uchaf Gogledd America. Saif yn Alaska. Ceir tywydd anarferol o oer ar y mynydd, ac mae pum rhewlif sylweddol ar ei lethrau. Sefydlwyd Parc Cenedlaethol Denali o amgylch y mynydd yn 1980.
Ffeithiau sydyn Math, Enwyd ar ôl ...
![]() | |
Math | mynydd ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | William McKinley ![]() |
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Denali National Park and Preserve ![]() |
Rhan o'r canlynol | Y Saith Pegwn ![]() |
Lleoliad | Denali National Park and Preserve ![]() |
Sir | Denali Borough ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 6,190 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 63.0694°N 151.0072°W ![]() |
Manylion | |
Amlygrwydd | 6,155 metr ![]() |
Rhiant gopa | Yanamax ![]() |
Cadwyn fynydd | Alaska Range ![]() |
![]() | |
Cau
Hawliodd y fforiwr Frederick Cook ei fod wedi dringo'r mynydd yn 1906, ond profwyd yn ddiweddarach nad oedd wedi cyrraedd y copa. Yn 1910, dringwyd y mynydd gan bedwar o ddynion lleol, Tom Lloyd, Peter Anderson, Billy Taylor a Charles McGonagall. Cyhaeddasant y Copa Gogleddol, yr isaf o ddau gopa'r mynydd. Cyrhaeddwyd y copa uchaf yn 1913 gan Walter Harper.