![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/f6/Sitta_europaea_wildlife_2_1.jpg/640px-Sitta_europaea_wildlife_2_1.jpg&w=640&q=50)
Delor y Cnau
rhywogaeth o adar / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Delor y Cnau (Sitta europaea) yn aelod o deulu'r Sittidae, y deloriaid. Mae'n aderyn cyffredin trwy'r rhan fwyaf o Ewrop a gogledd Asia, er nad yw'n cyrraedd Iwerddon.
Delor y Cnau | |
---|---|
![]() | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | Aves |
Urdd: | Passeriformes |
Teulu: | Sittidae |
Genws: | Sitta |
Rhywogaeth: | S. europaea |
Enw deuenwol | |
Sitta europaea Linnaeus, 1758 | |
Nid yw Delor y Cnau yn aderyn mudol. Mae'n aderyn cyffredin mewn coedwigoedd neu gymysgedd o goed a thir agored. Ei brif fwyd yw pryfed, hadau a chnau. Gall osod cneuen mewn twll mewn coeden i'w dal yn llonydd tra mae'n ei hagor a'i big.
Yn wahanol i'r rhan fwyaf o adar, mae'n medru dringo i lawr bonyn coeden - dim ond i fyny'r bonyn y gall y cnocellod, er enghraifft, ddringo. Mae'n aderyn canolig o ran maint, 14 cm o hyd, gyda pig hir a chryf, pen mawr a cynffon fer. Mae'r cefn yn llwydlas gyda llinell ddu ar draws y llygad. Mae'r lliw ar y bol yn amrywio yn ôl yr is-rywogaeth; mae gan y ffurf S. e. caesia yng ngorllewin Ewrop fol cochaidd, tra mae gan S. e. asiatica yn Asia a S. e. europaea yng ngogledd Ewrop fwy o wyn ar y bol.
Mae'n nythu mewn twll mewn coeden fel rheol, er ei fod yn barod iawn i ddefnyddio blychau nythu hefyd. Os yw'r twll yn rhy fawr i fod yn ddiogel, mae'n rhoi mwd o'i amgylch i'w wneud yn llai. Dodwyir 5 - 8 wy.
Mae'n aderyn cyffredin yng Nghymru, ac mae'n ymddangos fod ei niferoedd wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y ganrif ddiwethaf.