Defnyddiwr:Lesbardd/Ffeiliau Dewi Humphreys
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mi ges i wahoddiad i ymweld a Moira Humphreys wr wythnos diwethaf. Mae Moira'n weddw Dewi Humphreys, un o'r enwogion y pentref yn ôl y dudalen Coedpoeth (a dw i'n credu bod Moira wedi bod yn bwysig yn y byd dawns werin hefyd). Mae ganddi hi sawl ffeil o ddarnau o'r bapurau newydd, lluniau, a nodiadau gan Dewi. Mae Cymdeithas Hanes Coedpoeth wedi mynd trwy'r ffeiliau ac wedi defnyddio darnau ar eu gwefan (Saesneg yn unig). Mynnodd hi mod i'n benthyg y ffeiliau hefyd. Mae 'na ddarnau basai'n addas i dudalen wicipedia, a dw i'n bwriadu eu creu nhw pan mae gen i amser. Ond mae 'na pethau eraill, nodiadau gan Dewi (yn y dwy iaith), sy ddim yn cyfeirio at bethau bwysig, ond sy'n rhoi blas o'r amserau yn y pentref. Dyma un ohonynt:-
ÂâêÔÃÁÖëŴŴŴŴŴŴŴŴ'Testun praff'ÊëÌ'ŴŴ==MRS THOMAS OWEN WILLIAMS==
Ganed hi yn 36 High St, Coedpoeth.
A hi'n 9 oed, symud i Wern Hywel, 3 thŷ yn Park Rd, Coedpoeth. Roedd ei thad wedi eu prynu nhw. Pobl eraill yn ei helpu i'w prynu ac yn ei berswadio eu prynu. Dywedodd nad oedd ganddo bres ac yntau'n lowr Mr Gibbons, y drygist, yn ei swcro. Ymhen tua deunaw mis cafodd ei thad, John Richards ddamwain ddifrifol i lawr pwll....
Ar y pryd, yr oeddent yn ailadeiladu Capel Salem a phob aelod yn helpu – cymysgu mortar, cludo cerrig, ac ati. JR yn gofyn i'r gweinidog beth oedd iddo fo ei wneud i helpu ar ôl y ddamwain. Cafodd o swydd o ysgrifennu at bobl a danfon llyfr trwy'r post yn apelio am gyfraniadau at y gwaith a chafodd llawer o arian at y capel. Daeth y llyfr byth yn ôl heb gyfraniad.
Cafodd JR gynnig i godi ffens o gwmpas rhan o'r tir glas ar ben Uchaf Pantwyll i ffurfio mynwent. Llawer o lanciau'n helpu. Ac wedyn gofynnwyd iddo wneud llwybrau.
JR gafodd swydd goruchwyliwr cyntaf Mynwent Coedpoeth er bod eraill yn ceisio, a symudodd y teulu i'r tŷ newydd yn y fynwent tua 1893.
Tŷ unig oedd hwm, a Mrs R weithiau yn rhoi cannwyll yn y ffenestr fach yn gysur i'r plant wrth ddod adref. Dim golau stryd ac ofn mawr Mrs W fel plentyn oedd cyfarfod dyn meddw. Cael ei herian gan blant eraill am ysbrydion, ac yn cofio unwaith gorfod mynd yn y tywyllwch i gloi'r giât uchaf – ei thad yn ei gorfodi am iddi anghofio.
Ni chafodd Mr & Mrs R awr o ysgol. Mr R, fel bachgen, wedi bod i dŷ yn Heol Maelor, lle oedd Saesnes yn dysgu bechgyn. Un diwrnod, yr oeddynt eisiau gwyliau a dringodd un ohonynt ar y to, rhoi llechen ar y simnai, a chafodd pawb ddiwrnod i ffwrdd am fod y tŷ yn llawn mwg.
Dysgodd Mr R ei wraig sut i ysgrifennu ei henw er mwyn iddi nôl ei phensiwn. Ond dyna'r cwbl fedrai hi.
Yr oedd 'oel John Richards' yn enwog yn yr ardal. Yn cynnwys finegr, ŵy, turpentine, whisky, triog du, lard, saltpetre, ac ati; y cwbl yn lliw brown tywyll.
Glowyr yn ei nôl mewn potel a gofyn am werth tair ceiniog neu werth chwech. Stwff da at lawer clwyf – cryd cymalau, briwiau, doluriau, hyd yn oed i geffylau i lawr pwll.
Roedd rhaid lapio'r cwbl mewn gwlanen goch ac roedd digon o hynny ymhob tŷ. Gwlanen goch oedd y peth pwysig i bob clwyf yr adeg honno.
Nid oedd JR yn barod i roi rysêt ei oel i neb er i lawer o bobl geisio. Rhai eisiau iddo gymryd hawlfraint. Sôn efallai iddo roi'r rysêt mewn banc.
Mrs W yn gadael ysgol yn 13 oed a mynd i Manchester House, Coedpoeth, fel prentis i wniadwraig. Tua chwe geneth yno. A gweithiodd hi am ddwy flynedd heb gyflog o gwbl, ac wedyn cafodd hanner coron yr wythnos. Dechrau'n fore, pawb yn mynd adref i ginio, gweithio'r p'nawn, adref i de, yna'n ôl tam 7pm. Weithiau câi'r genethod a waelod y Nant ddod â'u te i'r siop i arbed siwrnai.
Mynd adref yn y tywyllwch. Lampau olew oedd gan bawb bryd hynny cyn amser trydan a nwy. Y strydoedd fel bol buwch. Gweld golau yn lloft yn golygu bod rhywun yn wael.
Yn 19 mlwydd oed, dechreuodd weithio ar liwt ei hun yn gwneud dillad merched a phlant yn ei chartref. Pobl yn dod â defnydd eu hunain o Wrecsam iddi, a hithau'n codi 8/6 am wneud ffrog merch. Oriau o waith oherwydd dillad llaes a'r addurno – 'ffigiari'.
John Carrington oedd yn cadw Gwesty Cross Foxes ac yr oedd y maes parcio presennol, gyferbyn, fel lawnt hyfryd. Ac ambell i nos Wener deuai Sipsiwnyno yn eu carafannau, gosod llwyfan, cynnau golau naptha, a dawnsio.
Cofio dyn yn dod ag arth â chortyn am ei gwddf ar hyd y ffordd fawr. Yr arth yn gwneud triciau a phobl yn taflu pres i lawr o ffenestri'r llofftydd. Daeth yr arth i Goedpoeth yn weddol aml.
Cofio dyn a'r hyrdi-gyrdi, a'r mwnci'n dawnsio.
Cofio gyrroedd o wartheg yn mynd trwy'r pentref ar eu ffordd o Ruthun i'r ffair yn Wrecsam. Rhaid bod y gyrwyr ar eu traed yn fore iawn – yn mynd trwy Coedpoeth yn gynnar, ac wedi cerdded bob cam.
John Richards, ei thad, yn gweithio ym mhwll glo Plas Power yn wyth oed, pan oedd ef a'i deulu yn byw yn melin y Mwynglawdd. Yr oedd ganddo chwaer yn forwyn mewn plas o'r enw Windy Hill neu Windy Mill tua chyfeiriad Rossett. Ac ar ambell fore Sul, aeth hi ar gefm mul o'r Mwynglawdd at ei chwaer i gymryd dillad glân iddi a dod â dillad budr yn ôl i'w golchi.
Mrs W yn edrych ymlaen yn arw at p'nawn Sadwrn pan oedd ei thad yn dod adref o'r pwll. Diwrnod cyflog. Ac ar ben y pwll yr oedd gwraig yn gwerthu byniau siwgr. JR yn prynu un iddi, a hithau fel un wedi cael sofren.
JR yn shot-lighter neu fireman tm Mhlas Power. Cafodd ddamwain ddifrifol pan ffrwydrodd y powdr ac yntau yn ymyl. Bu bron iddo colli'r dydd.
Bu'n gorwedd yn hir i lawr grisiau. Dim pres yn dod i mewn fel yswiriant cenedlaethol. Sut lwyddodd i dalu am y tri thŷ yng Ngwern Hywel? Cadw dau fochyn – un i dalu'r siop a'r llall at y tai yn ychwanegol at rent y ddau dŷ arall. Yna prynu dau foch bach a'u magu nhw eto.
Yr oedd y teulu yn dlawd yr adeg honno. Cofio cael chwe ceiniog i nôl torth o siop Noah Price ar waelod Bryn Tabor. Daeth i lawr y Shade a chollodd y pres ar y ffordd. Diflanodd y chwech yn y llwch. Dynion yn gomio wrth siop Dodd yn ei helpu, ond yn ofer. Cofio dagrau mawr.
Yr angladd cyntaf yn y fynwent ar Dydd Sul. Yr oedd pawb yna. JR wedi cael gorchymyn i gloi'r giatau a gadael neb i mewn tan amser y claddu. Daeth Elis Richards, ei dad, dyn bach yn cerdded gyda dwy ffon, a gwthio ei ffordd hebei'r bobl at y giât a gofyn am gael dod i mewn. Yr ateb distaw oedd “Na, mae'n rhaid i chi aros am funud neu ddau.”
Yr arferiad oedd casglu pres i'r teulu wrth y tŷ ar ddiwrnod angladd. Ychydig iawn o flodau oedd.
Geneth fach yn byw yn y tai ar draws y ffordd (lle mae Hafod y Grug) yn dod i helpu yn nhŷ'r fynwent. Wrth gael cornel bleind a gweld claddu mawr un diwrnod, dywedodd “rydych yn siŵr o wneud lot o bres heddiw.”
Mewn angladd oedd popeth yn ddu a pharchus. Ceffylau du sgleiniog yn tynnu'r hers a'r gots neu ddwy i'r teulu; pluen ddu yn chwifio ar ben pob ceffyl; y gyrwyr mewn dillad a hetiau silc du; y galarwyr i gyd mewn du hefyd.
Daeth dynes o'r enw Mrs Edwards i fyw yng Nghoedpoeth; ymaelodi yn Salem; a phrynu tŷ yn yr Adwy a'i enwi yn Chama ar ôl lle yn America. Arferai mynd yn ôl ac ymlaen i America at ei gŵr yno ac aros am ychydig o fisoedd. Un tro aeth Parch TE Thomas, gweinidog Salem, efo hi ac aros yno am dri mis.Pan fu farw ei gŵr, daethpwyd â'i gorff i Goedpoeth i'w gladdu. Mewn arch fetel. Pan gyrhaeddodd gorsaf Coedpoeth yr oedd yn rhy fawr i'r hers. Ei chludo ar drol.
Bu farw Mr a Mrs John Richards o fewn diwrnod i'w gilydd a'u claddu yr un diwrnod. Cynhebrwng mawr. Y bleinds i lawr ym mhobman. Cloch Eglwys Coedpoeth yn curo, a chlychau Egtlwys y Mwynglawdd yn canu 'Lead kindly light'.
Enoc Den a'i chwaer Mary yn byw mewn bwthyn lle mae Westminster House rŵan a choed tal o gwmpas. Un digri oedd o a braidd yn ddiniwed. Plant yn ei herian a rhedeg at y tŷ. Ond Mrs W yn ei ofni trwy'i chalon. Pan symudodd y ddau, aethant i Chapelyard wrth ochr Capel Adwy'r Clawdd; a Taid Nant, V J Astley, yn cofio ambell lwyth o lo tu allan i dŷ Enoc Den ac yntau yn ei helpu i gludo'r glo mewn berfa trwy'r tŷ i'r cut glo yn y cefn.
'Dr' Sidney Rigden yn cadw siop yn stryd fawr Coedpoeth ac yn byw yn rhif – yn wych gyda'i gamera. Bu'n helpu Dr Griffith gyda'r cleifion. Pan ddaeth Dr adref o'r Rhyfel Byd Cyntaf mae Mrs W yn cofio iddo gael ei godi a'r ysgwyddau dynion ifanc a'i gludo ar hyd y stryd.
'Dr' Gibbons – fferyllydd a'i siop bron gyferbyn â chapel Adwy'r Clawdd. Aeth Mrs W yn eneth fach i'r siop i nôl ffisig at boen stumog gan ei thad. “Gofyn iddo wneud dôs o lodom.” Dr G yn gwaredu gweld geneth felly yn nôl y fath stwff. Pwy oedd ei thad? I be' oedd y ffisig? Be' oedd ei hoed? Fe'i cafodd yn y diwedd a thorrodd i grio a'r ôl cyrraedd adref. Ofn cyfarfod plismon.
Daeth Dr Griffiths o gyfeiriad Wigan yn briod â Saesnes a chanddynt un ferch May, a ddaeth yn Mrs Murphy yn ddiweddarach. Digon tlawd oeddynt i ddechrau.
Dr Clare, Gwyddel, yn helpu Dr Griffiths. Fo dynnodd lawer o ddannedd Mrs W, a hi'n ifanc iawn. Ei thad yn ei chymryd bob Dydd Iau am wythnosau at Dr C am 2 o'r gloch. Tynnu dau neu dri bob wythnos. Cael nwy a mynd i gysgu.
Dr Worrall yn Southsea. Ato fo oedd rhaid cerdded cyn cael meddyg yng Nghoedpoeth, a cherdded adref. Cymerodd ei thad hi ato yn ddeg oed i dynnu dant mawr drwg. Gweld bowlen a'r taclau. Dim anaesthetig. Meddwl ei fod yn tynnu ei phen i ffwrdd.
Ar y pryd hefyd, i Southsea oedd rhaid mynd pan oedd pethau'n gyfyng iawn ar deulu. I weld y Relieving Officer. Cael esgidiau efallai. Peth atgas iawn."