Defnyddiwr:Jason.nlw/WiciBrosiect Addysg/Margaret Thatcher
From Wikipedia, the free encyclopedia
Prif Weinidog Ceidwadol y Deyrnas Unedig rhwng 1979 a 1990, a'r ddynes gyntaf i ddal y swydd, oedd Margaret Hilda Thatcher (née Roberts) (13 Hydref 1925 – 8 Ebrill 2013). Hi oedd y fenyw gyntaf i fod yn Brif Weinidog Prydain yn ogystal â bod y fenyw gyntaf yn Ewrop i gael ei hethol yn Brif Weinidog. Daeth yn adnabyddus am ei pholisïau Thatcheraidd a oedd yn medru hollti barn ac am ei phersonoliaeth benderfynol ac awdurdodol. [1][2][3]
Margaret Thatcher | |
![]() | |
Cyfnod yn y swydd 4 Mai 1979 – 28 Tachwedd 1990 | |
Rhagflaenydd | James Callaghan |
---|---|
Olynydd | John Major |
Geni | 13 Hydref 1925(1925-10-13) Grantham, Swydd Lincoln |
Marw | 8 Ebrill 2013(2013-04-08) (87 oed) Llundain, Lloegr |
Plaid wleidyddol | Ceidwadol |
Priod | Denis Thatcher |
Daeth yn Aelod Seneddol dros Finchley yn Llundain yn 1959 ac yn 1970 fe’i penodwyd gan Edward Heath yn Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a Gwyddoniaeth. Yn 1975 trechodd Edward Heath yn ei ymgais i fod yn arweinydd y Ceidwadwyr ac felly etholwyd hi yn arweinydd yr wrthblaid yn erbyn Llywodraeth Lafur Harold Wilson ac yna Jim Callaghan. Arweiniodd Margaret Thatcher y Ceidwadwyr am 15 mlynedd nes iddi ymddiswyddo yn 1990.
Mae’r syniadau gwleidyddol a fabwysiadodd tra'r oedd mewn grym yn cael eu hadnabod fel ‘Thatcheriaeth’ a daeth hi i gael ei hadnabod fel y ’Ddynes Ddur’. Arweiniodd y Ceidwadwyr i bŵer yn Etholiad Cyffredinol 1979 wrth ennill buddugoliaeth dros y Blaid Lafur a oedd mewn grym o dan arweiniad James Callaghan.
Roedd yn benderfynol o ymestyn yr egwyddor o farchnad rydd[4], ac yn gefnogol i feddylfryd mentergarwch ac entrepreneuraidd. Roedd yn awyddus i symud pobl i ffwrdd o'u dibyniaeth ar y Llywodraeth a’r Wladwriaeth Les. Roedd hi eisiau i unigolion fod yn fwy annibynnol a dibynnol ar ei allu ei hun yn hytrach na dibynnu ar gymorth oddi wrth y Llywodraeth. Dangoswyd hyn pan werthodd y Llywodraeth ei stoc o dai cyngor ar ddiwedd y 1980au i denantiaid y tai - cyfanswm o tua 1.5 miliwn o dai. Yn ystod ei llywodraeth hi, cafodd llu o wasanaethau cyhoeddus a diwydiannau a wladolwyd gan lywodraethau Llafur, gan gynnwys y rheilffyrdd, dŵr, trydan, nwy, olew, glo a dur eu preifateiddio. Roedd hi'n rhoi pwyslais ar sicrhau bod gwariant cyhoeddus ar wasanaethau fel iechyd ac addysg yn cael eu gwneud yn fwy atebol i’r Llywodraeth.
Daeth yn symbol o'r gwrthdaro rhwng y chwith a'r dde yng ngwledydd Prydain, yn enwedig yn ystod Streic y Glowyr (1984–5). Cymaint oedd ei dylanwad hi fel y llwyddodd i weddnewid gwleidyddiaeth Prydain yn gyfan gwbl, gan baratoi'r ffordd ar gyfer Llafur Newydd.
Erbyn diwedd ei chyfnod fel Prif Weinidog roedd wedi cyrraedd y garreg filltir o fod y Prif Weinidog a oedd wedi bod mewn grym am y cyfnod hiraf yn hanes Prydain a’r Prif Weinidog cyntaf ers dros 150 o flynyddoedd i ennill cyfres o dri etholiad cyffredinol - yn 1979, 1983 ac 1987.[2][3]