From Wikipedia, the free encyclopedia
Casgliad o straeon a ysgrifennwyd tua'r flwyddyn 1350 yn Eidaleg gan Giovanni Boccaccio (1313–1375) yw'r Decamerone neu Decameron.
Argraffiad cynnar o'r Decamerone (Fenis, 1492). Mae'r torlun pren yn dangos y saith merch a'r tri dyn yn un o'u sesiynau o adrodd straeon. | |
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol, casgliad o storïau byrion |
---|---|
Awdur | Giovanni Boccaccio |
Gwlad | yr Eidal, Gweriniaeth Fflorens, yr Ymerodraeth Lân Rufeinig |
Iaith | Medieval Italian |
Dechrau/Sefydlu | 1350s |
Cymeriadau | Peronella, brigata, Pab Boniffas VIII, Agilulf, Giotto, Lisabetta |
Yn cynnwys | Proem, Day 1, Day 2, Day 3, Day 4, Day 5, Day 6, Day 7, Day 8, Day 9, Day 10, Conclusion |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Lleoliad y gwaith | Fflorens |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r straeon yn ymddangos o fewn ffrâm naratif. Mae cwmni o ddeg o bobl ifanc – saith merch a thri dyn – wedi ffoi o'r Pla Du yn Fflorens ac wedi chwilio am loches mewn fila tu allan i'r ddinas. Er mwyn difyrru eu hunain gyda'r hwyr, mae pob un ohonynt yn cytuno i ddweud un stori bob dydd am ddeg diwrnod. Gan fod pob un o'r deg yn adrodd deg stori, mae yna cant o straeon yn y casgliad. Mae'r teitl yn cyfuno dau eiriau Groeg, δέκα, déka ("deg") ac ἡμέρα, hēméra ("diwrnod").
Bob noson mae un o'r cwmni'n dod yn "frenin" neu yn "frenhines" am y tro, ac yn penderfynu pa thema y dylai'r straeon ei ddilyn:
Benthycodd Boccaccio leiniau y rhan fwyaf o'i straeon o ffynonellau Eidaleg, Ffrangeg a Lladin cynharach, er bod rhai ohonynt yn tarddu mewn tiroedd eraill ac roeddent eisoes yn ganrifoedd oed.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.