![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/83/Bilden_ar_tagen_vid_Nordiska_radets_session_i_Oslo%252C_2003.jpg/640px-Bilden_ar_tagen_vid_Nordiska_radets_session_i_Oslo%252C_2003.jpg&w=640&q=50)
Davíð Oddsson
From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwleidydd a chyn Brif Weinidog o Gwlad yr Iâ yw Davíð Oddsson (ganwyd 17 Ionawr 1948); treuliodd gyfnod hirach fel Prif Weinidog y wlad nag unrhyw berson arall. Rhwng 2004-5 gwasanaethodd fel y Gweinidog dros Faterion Tramor.
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Dinasyddiaeth ...
Davíð Oddsson | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 17 Ionawr 1948 ![]() Reykjavík ![]() |
Dinasyddiaeth | Gwlad yr Iâ ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, diplomydd, ysgrifennwr, cyfreithiwr, newyddiadurwr, banciwr, bardd ![]() |
Swydd | Prif Weinidog Gwlad yr Iâ, Mayor of Reykjavík, Aelod o Senedd yr Althing, Minister for Foreign Affairs (Iceland), Minister of Statistics of Iceland ![]() |
Plaid Wleidyddol | Independence Party ![]() |
Plant | Þorsteinn Davíðsson ![]() |
Gwobr/au | Urdd am Deilyngdod Eithriadol ![]() |
Cau
Graddiodd yn ygsol Menntaskólinn í Reykjavík yn 1970 ac oddi yno yn Adran y Gyfraith Prifysgol Gwlad yr Iâ yn 1976. Gwasanaethodd Oddsson fel Maer Reykjavík rhwng 1982 a 1991.
Bu hefyd yn Gadeirydd Banc Canolog Gwlad yr Iâ rhwng 2005 a 2009 ond aeth yr hwch drwy'r siop a galwyd am ei ymddiswyddiad gan drigolion y wlad a'r Prif Weinidog newydd Jóhanna Sigurðardóttir. Fe'i gwnaed yn Olygydd y Morgunblaðið, un o bapurau newydd mwyaf Gwlad yr Iâ, ond unwaith eto, bu cryn anniddigrwydd ac ymddiswyddodd o fewn misoedd.[1]
Rhagflaenydd: Steingrímur Hermannsson |
Prif Weinidog Gwlad yr Iâ 30 Ebrill 1991 – 15 Medi 2004 |
Olynydd: Halldór Ásgrímsson |