From Wikipedia, the free encyclopedia
Cân genedlaetholgar Almaenig yw Das Lied der Deutschen ("Cân yr Almaenwyr") (hefyd Das Deutschlandlied ("Cân yr Almaen")). Defnyddir trydydd pennill y gân heddiw fel anthem genedlaethol yr Almaen. Cyfansoddwyd y geiriau ar 26 Awst 1841 gan August Heinrich Hoffmann von Fallersleben ar ynys Heligoland i gydfynd ag alaw gan Joseph Haydn. Cynhaliwyd perfformiad cyhoeddus cynta'r gân ar 5 Hydref 1841 yn Hamburg.
Cyfansoddwyd yr alaw gan Joseph Haydn, a'i hysgrifennodd adeg y Rhyfeloedd Napoleonaidd, fel anthem i'r Kaiser Franz II yn 1797 (Gott erhalte Franz, den Kaiser, unsern guten Kaiser Franz 'Duw waredo Franz, y kaiser, ein kaiser da Franz'). Hon oedd anthem genedlaethol yr Almaen o 1922 ymlaen. Yng nghyfnod y Drydedd Reich, dim ond y pennill cyntaf a ganwyd, ynghyd â'r gân Natsïaidd, y Horst-Wessel-Lied. Ar ôl sefydliad Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, dim ond y trydydd pennill a ganwyd ar achlysuron swyddogol.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.