From Wikipedia, the free encyclopedia
Cyfres o ogofâu yn ne Powys yw Dan yr Ogof. Mae'n rhan o Ganolfan Ogofâu Arddangos Cenedlaethol Cymru. Saif ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yng nghongl de-orllewinol y Fforest Fawr, ger pentref Craig-y-nos. Mae tua 5 milltir i'r gogledd o Ystradgynlais a 15 milltir i'r de-orllewin o Aberhonddu, yng nghymuned Tawe Uchaf.
Mae Dan-yr-Ogof tua 10 milltir (16 km) o hyd, ac yn rhan o gyfres fwy o ogofâu; un o'r mwyaf yng ngorllewin Ewrop. Archwiliwyd yr ogofâu yma gyntaf yn 1912 gan ddau frawd lleol, Tommy a Jeff Morgan.
Cafwyd hyd i esgyrn dynol o 42 o unigolion yn yr ogofâu, ynghyd â llawer o esgyrn anifeiliaid.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.