Dafydd Llwyd o Fathafarn
Ef oedd awdur tua 50 o'r 200 o gywyddau brud ei gyfnod sydd ar gael, a dyna ei enwogrwydd pennaf / From Wikipedia, the free encyclopedia
Bardd ac uchelwr o Fathafarn ym Mhowys oedd Dafydd Llwyd o Fathafarn (Dafydd Llwyd ap Llywelyn ap Gruffudd: tua 1395 - 1486). Bardd a ganai ar ei fwyd ei hunan oedd Dafydd Llwyd, yn hytrach na bardd proffesiynol. Roedd yn adnabyddus iawn yn ei ddydd fel brudiwr a dehonglydd brudiau, yn gymaint felly fel y dywedir fod Harri Tudur wedi galw ym Mathafarn i ymgynghori ag ef ar ei ffordd i Faes Bosworth yn 1485.
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Dafydd Llwyd o Fathafarn | |
---|---|
Ganwyd | c. 1420 ![]() |
Bu farw | c. 1500 ![]() |
Man preswyl | Mathafarn ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | bardd ![]() |
Cau