![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/a2/Heiliger_Cyprianus.jpg/640px-Heiliger_Cyprianus.jpg&w=640&q=50)
Cyprianus
From Wikipedia, the free encyclopedia
Diwinydd Cristnogol, un o Dadau'r Eglwys, ac arweinydd y Cristnogion yn Affrica oedd Sant Cyprianus (Thascius Caecilius Cyprianus; 200 – 14 Medi 258).
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Cyprianus | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Thascius Caecilius Cyprianus ![]() c. 200 ![]() Carthago ![]() |
Bu farw | 14 Medi 258 ![]() o pendoriad ![]() Carthage ![]() |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol ![]() |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, offeiriad, athronydd, esgob Catholig ![]() |
Swydd | esgob ![]() |
Dydd gŵyl | 16 Medi ![]() |
Cau
Ganwyd yng Ngharthago i deulu bonheddig. Trodd yn Gristion tua'r flwyddyn 245, a rhoddai'r mwyafrif o'i gyfoeth i'r tlawd. Cafodd ei ddewis yn Esgob Carthago yn 248. Fe wnaeth ffoi o'r ddinas pan ddechreuodd yr Ymerawdwr Decius erlid y Cristnogion.
Cafodd Cyprianus ei roi ar brawf a'i ddienyddio'n ferthyr dan erledigaeth yr Ymerawdwr Valerian I. Dethlir ei ŵyl ar 16 Medi yn yr Eglwys Babyddol a'r Eglwys Uniongred Ddwyreiniol ac ar 26 Medi yn yr Eglwys Anglicanaidd.