actores From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Cynthia Ellen Nixon (ganed 9 Ebrill 1966) yn actores Americanaidd sydd wedi ennill Gwobr Tony a dwy Wobr Emmy. Mae'n fwyaf adnabyddus am ei phortread o'r cyfreithiwr Miranda Hobbs yn y gyfres deledu HBO a'r ffilm boblogaidd Sex and the City (1998-2004, 2008).
Cynthia Nixon | |
---|---|
Ganwyd | Cynthia Ellen Nixon 9 Ebrill 1966 Dinas Efrog Newydd |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor teledu, actor ffilm, actor, actor llwyfan, bardd, slam poet |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
Gwobr/au | Gwobr y 'Theatre World', Gwobr Tony am yr Actores Orau mewn Drama, Gwobr Lucy, Gwobr Primetime Emmy i Actores Gefnogol Arbennig mewn Cyfres Gomedi, Gwobr Primetime Emmy am Actores Wadd Arbennig mewn Cyfres Ddrama |
Gwefan | https://cynthiafornewyork.com |
Ganwyd Nixon yn Ninas Efrog Newydd, Efrog Newydd yn ferch i'r actores Anne Kroll a newyddiadurwr radio, Walter Nixon. Ymddangosodd ar y sgrîn am y tro cyntaf fel twryllwraig ar To Tell the Truth, lle gweithiai ei mam. Dechreuodd actio pan oedd yn 12 oed ar The Seven Wishes of a Rich Kid, rhaglen ar ABC ym 1979. Perfformiodd mewn ffilm am y tro cyntaf yn Little Darlings (1980) gyda Kristy McNichol a Tatum O'Neal. Ymddangosodd ar Broadway am y tro cyntaf fel Dinah Lord yn ail-gread 1980 o The Philadelphia Story.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.