![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/7/76/Vaclav_Brozik_-_Hus.jpg/640px-Vaclav_Brozik_-_Hus.jpg&w=640&q=50)
Cyngor Konstanz
From Wikipedia, the free encyclopedia
Cyngor Eciwmenaidd yr Eglwys Gatholig Rufeinig a gynhaliwyd rhwng 1414 a 1418 oedd Cyngor Konstanz (Lladin: Concilium Constantiense). Cyfarfu'r cyngor ar gais yr Ymerawdwr Sigismund yn esgobaeth-tywysogaeth Konstanz yn yr Ymerodraeth Lân Rufeinig, sy'n rhan o'r Almaen heddiw.
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | synod ![]() |
---|---|
Dechreuwyd | 5 Tachwedd 1414 ![]() |
Daeth i ben | 22 Ebrill 1418 ![]() |
Rhagflaenwyd gan | Cyngor Vienne ![]() |
Olynwyd gan | Cyngor Fflorens ![]() |
Lleoliad | Neuadd Cyngor Konstanz ![]() |
Yn cynnwys | Conclaf 1417 ![]() |
![]() | |
Gwladwriaeth | yr Almaen ![]() |
![]() |
Daeth y cyngor â'r Sgism Orllewinol i ben. Cafodd ymddiswyddiad y Pab Grigor XII a diorseddodd y ddau ymgeisydd arall; etholwyd y Pab Martin V yn eu lle.
Ymhlith ei weithredoedd cyntaf oedd barnu Jan Hus yn euog o heresi ac yna ei ddienyddio (1415).
Gwnaeth ddyfarniadau ar faterion yn ymwneud â sofraniaeth genedlaethol, hawliau paganiaid a rhyfel cyfiawn, mewn ymateb i wrthdaro rhwng Uchel Ddugiaeth Lithwania, Teyrnas Gwlad Pwyl ac Urdd y Marchogion Tiwtonaidd.
Bu'r cyngor hefyd yn trafod materion yn ymwneud â llywodraethu'r Eglwys a goruchafiaeth y Pab.